Byddai bod yn octopws yn golygu cyflawni sawl tasg ar unwaith

Alis Butten sy’n ateb cwestiynau Cadwyn Cyfrinachau yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Alis Butten o Gellan wedi ei dewis ymhlith tair o fowlwyr Llanbed i garfan Gemau’r Gymanwlad ar gyfer Birmingham 2022 a hi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.

Un o’r eiliadau balchaf iddi’n bersonol cyn nawr oedd bod y ferch ifancaf i dderbyn cap Cymru yn nhîm hŷn Bowlio Merched Cymru a chyfaddefa mai’r person sy’n ddylanwad arni yw Mamgu Bowls (Anita), ffrind da ac hefyd yn hyfforddwr bowls da.

Ar y llaw arall, Mamgu Bowls sy’n codi ofn arni hefyd, wrth iddi golli gêm o bowls.  Diolch byth nad yw hynny’n digwydd yn rhy aml.

Tasai Alis yn cael dewis bod yn anifail byddai’n dewis bod yn octopws er mwyn cyflawni sawl tasg ar unwaith gyda digon o freichiau.  Y dalent gudd sydd ganddi yw’r gallu i dorri gwallt dynion yn oce.  Cafodd llawer o ymarfer i wneud hynny yn ystod y cyfnod clo ar ei thad Tim a’i brawd Hari.

Mae’n datgelu llawer mwy o gyfrinachau yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc, fel beth oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf.  Un tro bu’n rhaid iddi fynd i ddiwrnod rowndiau terfynol cymdeithas bowlio merched Ceredigion ar ôl cael ‘black eye’ y noson gynt yng Nghlwb Rygbi Llanbed ar ôl peint yn ormod a ffeit gyda’r llawr!

Dyma golofn ddiddorol iawn, a diolch i Alis am ateb y cwestiynau.  Cofiwch brynu rhifyn Gorffennaf Clonc yn un o’r siopau lleol er mwyn darllen y golofn yn ei chyfanrwydd.