Mae’r adeilad yng nghanol Llambed wedi cael ei brynu yn rhan o Raglen Datblygu ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion, gyda’r bwriad o’i adnewyddu a defnyddio’r adeilad eto.
Bydd y gwaith yn dechrau ar adnewyddu golwg allanol 10-11 Sgwâr Harford, gan droi’r llawr gwaelod yn ddwy uned fasnachol gyda blaen traddodiadol newydd i’r siopau ynghyd ag addasu’r lloriau uwch yn fflatiau.
Darlun unigryw i Lanbed
Tra bo’r cynlluniau’n cael eu llunio ar gyfer y gwaith adfywio, mae darn o gelf dros dro wedi cael ei gomisiynu a fydd yn arbennig i ardal Llambed ar gyfer blaen y siop.
Mae’r artist a gomisiynwyd, sef Hannah Davies, yn ddarlunydd gwobrwyol sy’n byw ac yn gweithio ar lan y môr yn ne Cymru ac sy’n dwyn ysbrydoliaeth o wead a phatrymau byd natur.
Daw ysbrydoliaeth Hannah ar gyfer y gwaith celf o sawl ffynhonnell leol, gan gynnwys: adeilad Neuadd y Dref, adeilad y Brifysgol, y Cobyn Cymreig, Ffair Dalis, Sioe Feirch Llanbed, Sioe Amaethyddol Llanbed, gwartheg, defaid, Afon Teifi, y bont a’r elyrch, melinau gwlân, cwiltiau Cymreig, llwybrau’r porthmyn, y mwyngloddiau aur ac allt Long Wood.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae hwn yn ddatblygiad hynod o gyffrous yn Llanbed ac mae’n wych gweld sut y gall y Cyngor gymryd camau i adfywio a dod â bywyd newydd i ganol ein trefi. Edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau’n dwyn ffrwyth a fydd yn siŵr o hybu’r economi a chefnogi’r gymuned leol. Ac yn y cyfamser, gobeithio y daw’r ddelwedd ym mlaen y siop â chynhesrwydd a llawenydd i strydoedd Llanbed gan ysbrydoli pobl i fod yn greadigol.”
Bydd y prosiect peilot hwn yn dangos sut gall rôl yr Awdurdod Lleol helpu i wyrdroi dirywiad y stryd fawr yn ein sir, gan adfywio adeiladau gwag a’u defnyddio eto er budd busnesau lleol a’r gymuned. Rydym wrthi’n ceisio diogelu rhagor o eiddo gwag er mwyn eu defnyddio eto a gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer.