Cadeirydd Cyngor Sir Gâr yn nofio er budd elusennau

Cynghorydd Ieuan Davies yn codi arian ar gyfer Canser y Prostad ac Eglwys Sant Pedr Llanybydder.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’r Cynghorydd Ieuan Davies o Lanybydder wedi cyflawni ei addewid fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin i nofio yn y môr i godi arian ar gyfer ei ddwy elusen.

Roedd ef wedi addo cymryd rhan yn Nhrochfa’r Tymor, y digwyddiad nofio glan môr traddodiadol ar draeth Cefn Sidan ar ŵyl San Steffan, ond cafodd y digwyddiad ei ganslo oherwydd cyfyngiadau Covid.

Yn hytrach, mentrodd y Cynghorydd Davies i’r môr ar draeth Pentywyn yn ystod penwythnos oer y Pasg.

Mae’r Cynghorydd Davies yn codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at ei galon sef Canser y Prostad ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder.

Yn ogystal â nofio, mae’r Cadeirydd Davies hefyd yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig a hyd yn hyn, mae wedi cerdded dros 60 milltir.

Dywedodd y Cynghorydd Davies “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i gynifer o bobl ac mae’n siom fawr i mi nad ydw i wedi gallu ymgymryd â dyletswyddau arferol y Cadeirydd, a chwrdd â chynifer o grwpiau a phreswylwyr Sir Gaerfyrddin â phosibl dros y flwyddyn.”

“Rwy’ mor falch o fod wedi gallu nofio yn y môr sy’n ddyddiad pwysig yn y calendr dinesig,” ychwanegodd.

Gellir gwneud cyfraniadau wrth dalu â charden gredyd/ddebyd gyda Visa, MasterCard, Switch, Solo, Visa Delta drwy ffonio 01267 228686.  Soniwch eich bod am wneud taliad i gyfrif Cadeirydd y Cyngor.  Gellir hefyd dalu drwy siec, yn daladwy i ‘Cyfrif Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin’, a’i hanfon at: Eira Evans, Pen-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd (Cymorth i’r Aelodau a Dinesig), Adran y Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.