? Gweledigaeth Cadwyn Teifi i genhadu yn ardaloedd Llanbed a Thregaron

Sefydlu presenoldeb Cristnogol yn ysgolion dalgylchoedd Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Henry Richard.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cyfarfu Ymddiriedolwyr Cadwyn Teifi yn Eglwys Efengylaidd Llanbedr Pont Steffan. ‘Mae’n gam pwysig ymlaen’ meddai’r Cadeirydd, y Parchedig Densil Morgan ‘ein bod yn medru dod ynghyd fel hyn i barhau gyda gwaith Cadwyn Teifi.’

Prif eitem yr Agenda oedd trafod llenwi swydd Gweithiwr Cristnogol Cadwyn Teifi ac Undeb y Gair. Pwrpas y swydd yw sefydlu presenoldeb Cristnogol yn ysgolion dalgylchoedd Ysgol Bro Pedr, Llanbed ac Ysgol Henry Richard, Tregaron. Bydd hefyd yn gweithio ar y cyd â’r capeli a’r eglwysi lleol gan ddatblygu’r cysylltiadau Cristnogol sydd rhwng yr ysgolion a’r gymuned.

Trafodwyd hefyd bod angen Ymddiriedolwyr ychwanegol yn aelodau o’r pwyllgor. Dyma gyfle i gyfrannu yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar.

Cewch wybod mwy am y swydd a gwaith yr Ymddiriedolwyr yn y cyfweliad. Cysylltwch gyda’r Parchedig Densil Morgan am fwy o wybodaeth. Ei gyfeiriad e-bost yw d.d.morgan@uwtsd.ac.uk

Pob dymuniad da i Cadwyn Teifi a diolch yn fawr am sgwrsio gyda Clonc360.