Cais cynllunio am dyrbinau gwynt enfawr ar Fynydd Pencarreg

Cynlluniau i godi dau dyrbin gwynt 125m o uchder ar dir Esgair-living.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Fferm Wynt Brechfa. Llun: @CynnalCymru.

Gwnaed cais cynllunio i Gyngor Sir Gâr ar y 12fed o Fawrth gan gwmni Energiekontor ar gyfer gosod dau dyrbin gwynt hyd at 125m o uchder ar Fynydd Pencarreg, eu gweithredu am 25 mlynedd a’u datgomisiynu wedyn ynghyd â’u seilwaith cysylltiedig.

Cyhoeddir ar wefan Energiekontor:

Mae gan Energiekontor ganiatâd ar hyn o bryd ar gyfer 2 dyrbin o hyd at 100m ar y safle. Mae Energiekontor yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio newydd ar gyfer 2 dyrbin o hyd at 125m, gyda chapasiti cyffredinol i gynhyrchu hyd at 5MW, a seilwaith cysylltiedig gan gynnwys sylfeini tyrbin, traciau newydd ac wedi’u huwchraddio, lloriau caled ar gyfer craen, ardal storio dros dro, is-orsaf, mynedfa safle wedi’i huwchraddio a chyfadeilad adeiladu dros dro. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn weithredol am gyfnod o 25 mlynedd, ac wedi hynny byddai’r tyrbinau’n cael eu symud ymaith a’r safle’n cael ei adfer.

Y bwriad yw lleoli’r tyrbinau gwynt tua 2km i’r gogledd o Rydcymerau a 5km i’r de-orllewin o Lanybydder ar dir Esgair-living dafliad carreg o’r B4337 rhwng Llanybydder a Rhydcymerau.

Credir y byddant i’w gweld o Rydcymerau, Parc-y-rhos, Llanybydder ac ardaloedd tu hwnt i Lanbed. Ond dywed datganiad cynllunio Energiekontor UK: “Ni fydd unrhyw effaith ar safonau byw mewn eiddo unigol, fel byddai unrhyw un o’r eiddo hyn yn anneniadol i fyw ynddo.”

O ran maint, mae’r mast teledu presennol ar Fynydd Pencarreg yn 98m o uchder, a bydd y tyrbinau gwynt newydd hyd at 27m yn uwch na hynny.

Mae Energiekontor UK Ltd yn gwmni datblygu ynni adnewyddadwy gyda swyddfeydd yn Glasgow, Caeredin a Leeds.  Danfonodd y cwmni lythyr yn nodi ei fwriadau i Gyngor Cymuned Llanybydder ar y 5ed Chwefror.

Gellir cyflwyno sylwadau am y cynlluniau hyn i Gyngor Sir Gâr tan y 19eg o Fai.