Canolfan Achub Draenogod yng Nghwmann yn gofyn am gymorth

Apêl am hen bapurau newydd fel dillad gwely i ddraenogod a achubir.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Canolfan Achub Draenogod yng Nghwmann yn apelio am hen bapurau newydd i’w defnyddio fel dillad gwely i ddraenogod.

Oes draenog yn crwydro yn eich gardd chi y dyddiau hyn?  Y llynedd, cyhoeddwyd yn swyddogol bod draenogod Prydain mewn perygl o allu diflannu’n llwyr. Fe’u diogelir gan y gyfraith sy’n gwahardd creulondeb a chamdriniaeth.

Mae Canolfan Achub Draenogod Gorllewin Cymru wedi’i lleoli yng Nghwmann yng nghartref a gardd Di a Liam O’Keeffe. Dywed Di, “Fe ddechreuon ni’r Ganolfan Achub ein hunain. Gwelais hysbyseb yn galw am fwy o achubiadau a gwnes fy ymchwil fy hun ac nid oedd unrhyw achubiadau ar gael. Fe wnes i ychydig o hyfforddi a dechrau arni.

“Rydyn ni’n cwmpasu’r rhan fwyaf o Orllewin Cymru, o Lanelli hyd at Fachynlleth, De Powys, Rhydaman, Llanymddyfri a Phont Senni. Rydym yn delio â rhwng 80 i 100 o ddraenogod y flwyddyn sy’n cynnwys draenogod bach a fagwyd â llaw”.

Rhedir y ganolfan yn llwyr ar ffioedd aelodaeth a rhoddion. Mae yna bwyllgor a grŵp bach o wirfoddolwyr lleol sy’n helpu Di a Liam gyda’r gwaith dyddiol o ofalu am y draenogod, yn enwedig glanhau eu cewyll, eu pwyso a’u bwydo.

Gall unrhyw un gynnig helpu. Mae yna hefyd grŵp bach o roddwyr rheolaidd sy’n cyfrannu bwyd ac eitemau eraill, gan gynnwys llawer iawn o bapur newydd ar gyfer dillad gwely.  Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig gwasanaeth “tacsi” i Di er mwyn casglu draenogod sydd angen eu hachub.

Yn ddiweddar, sefydlwyd rhestr ddymuniadau Amazon er mwyn i bobl roi pethau penodol sydd eu hangen ar y ganolfan. Sefydlodd un o’r aelodau dudalen codi arian yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf sydd wedi codi bron mil o bunnoedd. Mae hyn yn galluogi Di a Liam i brynu mwy o gewyll, padiau gwres, fformiwla ar gyfer draenogod bach, chwistrelli, menig, bagiau sbwriel ac ati. Mae’n rhaid iddyn nhw brynu meddyginiaeth hefyd.

Mae Di a Liam ar gael bedair awr ar hugain y dydd 365 dydd o’r flwyddyn ac ni fyddant yn gwrthod unrhyw ddraenog waeth pa mor brysur ydyn nhw. Yn llythrennol mae’n swydd llawn amser neu’n fwy o ffordd o fyw. Ar hyn o bryd mae’r gegin a’r ystafell wely yn llawn cewyll o ddraenogod bach ac mae’r rhai mawr yn y sied sydd wedi’i hinswleiddio a elwir yr “hogspital”.

Er na chafodd y ddau iechyd arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Di a Liam yn ymroi i’r draenogod ac yn rhoi eu hanghenion yn gyntaf ym mhopeth a wnânt. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw oddeutu 40 draenog ac mae’n ras yn erbyn amser i gael cymaint â phosib hyd at eu pwysau targed fel y gellir eu rhyddhau mewn pryd i aeafgysgu. Bydd angen gofalu am y draenogod eraill dros y gaeaf i gyd.

Un gwirfoddolwr yw Sasha Brown:

Fe symudon ni i Gymru ym mis Ebrill eleni ac ym mis Gorffennaf fe ddaethon ni o hyd i nyth draenogod yn yr ardd. Roedd dau o’r draenogod bach wedi gwahanu oddi wrth y gweddill ac er i ni eu rhoi yn ôl, nid oedd un yn gallu cerdded yn dda a dyna sut gwrddon ni â Di a Liam. Ni wnaeth ein draenog bach ni oroesi ond rwyf wedi cwblhau’r hyfforddiant maeth ac rydym wedi maethu a rhyddhau ein draenog cyntaf, yr hydref hwn ac edrychaf ymlaen at yr un nesaf.

Rwy’n mwynhau helpu Di a Liam pan alla i, pwyso’r draenogod a chofnodi’r cynnydd mewn pwysau neu’r golled ar eu siartiau tra bod Liam yn glanhau’r cewyll, yn rhoi dillad gwely a bwyd a dŵr newydd i mewn.

Gyda’r rhai bach rwy’n hoffi gadael iddyn nhw gwtsio o dan fy nghardigan neu fy sgarff wrth iddyn nhw aros i fynd yn ôl i’r gawell. Mae’r draenogod bach yn aml yn hoffi cwtsio y tu mewn i un o’r hetiau gwau niferus a wneir gan wirfoddolwyr caredig yn lle “nyth”.

Os oes gennych hen bapurau newydd, gallwch gysylltu drwy dudalen facebook y ganolfan, neu adael y papurau newydd yn y ganolfan a leolir yng Nghefnbryn Lodge, Cwmann ar y ffordd i Bencarreg.