Canolfan Hamdden Llambed ar gau am ddau fis arall

Ond gellir teithio i Ganolfannau Hamdden Sir Gâr sydd ar agor erbyn hyn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Nid yw Canolfan Hamdden na Phwll Nofio Llambed yn mynd i ailagor am ddau fis arall.  Dywed datganiad Cyngor Sir Ceredigion “Byddwn yn ailddechrau’n raddol ar y ddarpariaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon a gyflenwir gan y cyngor, gan gynnwys ailagor y cyfleusterau hamdden a weithredir gan y Cyngor, y caeau pob tywydd (ATPs) a’r meysydd chwarae. Mae’r amserlen a ganlyn yn ddibynnol ar beidio â chael cynnydd sylweddol yn y nifer o achosion yn y sir.”

Bwriedir ailagor Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llambed ar y 5ed Gorffennaf.  “Rydym yn cydnabod y gallai’r dyddiadau a ddarperir fod yn hwyrach na’r disgwyl, fodd bynnag, maent wedi’u pennu er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i leihau’r risg o unrhyw gynnydd mewn achosion ac i gefnogi blaenoriaethau’r awdurdod lleol yn ein brwydr yn erbyn y feirws.  Maent hefyd yn sicrhau bod staff a roddwyd ar secondiad i gefnogi gwasanaethau eraill y Cyngor yn ystod y pandemig yn gallu dychwelyd i’w swyddi o fewn Gwasanaeth y Canolfannau Lles.”

O’r 28ain Mai ymlaen cynhelir dosbarthiadau ymarfer corff awyr agored a chynigir cyfleusterau awyr agored fel caeau pob tywydd fel sydd yn Llambed a meysydd chwarae i sefydliadau cymunedol.

Ar y llaw arall, mae Canolfannau Hamdden Sir Gâr wedi ailagor.  Beth am deithio i Gastell Newydd Emlyn neu Lanymddyfri er mwyn ceisio cadw’n heini?

Dywed datganiad Cyngor Sir Gâr “O 3 Mai, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ailagor ei ganolfannau hamdden yn Llanelli, Rhydaman, Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr a bydd pobl hefyd yn gallu cael cipolwg am y tro cyntaf ar y ganolfan hamdden newydd sy’n agor yn Llanymddyfri.”

“O ddydd Llun, 3 Mai, bydd canolfannau hamdden yn ailagor ac yn ailddechrau hyd yn oed mwy o sesiynau a gweithgareddau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru gan gynnwys campfeydd ar gyfer sesiynau unigol, nofio mewn lonydd yn y pyllau nofio, gwersi nofio un-i-un, dosbarthiadau ffitrwydd dan do ac archebion ar gyfer chwaraeon dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o bobl.”

Mae canolfan hamdden newydd sbon wedi agor ei drysau am y tro cyntaf yn Llanymddyfri.  “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi’n sylweddol i ddod â chanolfan hamdden newydd i ogledd y sir, sy’n cynnwys campfa o’r radd flaenaf, neuadd chwaraeon, stiwdio ddawns a chyfleusterau cymunedol i’r ardal yn ychwanegol at y pwll nofio presennol.”

“Dyma’r ganolfan hamdden newydd gyntaf i gael ei lansio gan y cyngor sir ers blynyddoedd, gan gefnogi’r ymdrechion i helpu pobl i wella eu llesiant a darparu lle hamdden i bobl leol ac ymwelwyr.  Mae rhan o hen safle Ysgol Pantycelyn wedi cael ei haddasu i gynnwys y ganolfan hamdden newydd sy’n golygu y gall pobl bellach fanteisio ar fynediad hollgynhwysol i’r gampfa, nofio a dosbarthiadau ffitrwydd.”