Colled ym myd y Merlod a’r Cobiau eleni eto

Sioe Feirch Llambed – un o brif sioeau’r flwyddyn ym myd y Cobiau ond, beth yw’r hanes? 

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan

Ar drydydd penwythnos fis Ebrill, fel arfer, fe fyddai bobol byd y Merlod a Chobiau Cymreig yn heidio i gaeau Llanllyr, Talsarn ar gyfer Sioe Feirch Llambed. Cydnabyddir y Sioe yn rhyngwladol fel dechrau’r tymor sioea ym myd y merlod a chobiau ond oherwydd y sefyllfa sydd ohoni heddiw, dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r pwyllgor orfod canslo’r sioe.

Mewn gwirionedd, mae gwreiddiau’r Sioe yn tarddu ymhell cyn hynny. Mae Dr Wynne Davies, hanesydd mwyaf nodedig y Merlod a Chobiau Cymreig (sydd hefyd yn perthyn i deulu Gwarffynnon, Silian) wedi croniclo’r cyfan ar wefan y Sioe.

Yn fras, mae tarddiad ‘egwyddor’ y Sioe yn hanu o 1888 pan gasglwyd gan y Comisiwn Brenhinol fod angen codi safonau’r ceffyl. Atebwyd y broblem gyda rhodd ‘premiwn’ gan y Llywodraeth a fyddai’n caniatáu i berchnogion y Meirch ostwng pris gwasanaeth (Stud Fee) y march.

Ym 1912, fe wobrwywyd chwe phremiwm o £50 ar gyfer y cobiau Cymreig. Roedd hyn yn arian mawr yn y cyfnod hwn gan ystyried mai £37 oedd cyfartaledd y cyflog amaethyddol.

Bu cryn ansicrwydd i’r premiwn rhwng cyfnod y rhyfeloedd ond o 1956 (er mwyn arbed y beirniaid rhag teithio ar draws y wlad fel y byddant yn gwneud cynt i weld y meirch) fe glustnodwyd Llambed fel man cyfarfod ar gyfer beirniadu’r premiwm.

Yn y cyfnod hwn, roedd y Sioe o dan ofalaeth weinyddol cymdeithas y merlod a chobiau Cymreig ond ar y 3ydd o Ebrill, 1962, cynhaliwyd y sioe o dan ofalaeth pwyllgor lleol.

Yn gadeirydd ar y pwyllgor hwn oedd fy hen dad-cu, D.O. Morgan, Coedparc. Yn aelod ar y pwyllgor cyntaf hefyd oedd y diweddar W. Davies a oedd yn wncwl i John Davies, Tynlofft a Dai Davies, Gwarffynnon. Dyma felly oedd dechreuad y Sioe Byd Enwog a adnabyddir heddiw fel Sioe Feirch Llambed.

Yn ystod diwedd y 50’au a’r 60’au fe aeth y sioe o nerth i nerth gyda’r wobr ariannol yn cynyddu’n araf. Ym 1969, fe symudwyd y Sioe i gael ei chynnal ar ddydd Sadwrn (arwydd o’r poblogrwydd cynyddol, efallai?) gyda £100 ar gyfer y march gorau yn rhanbarthau Cymru – Gogledd, Canolbarth a De Cymru.

25 oedd yn y sioe gyntaf ond erbyn 1973 roedd 264 o geffylau’n ymgeisio a dyma’r flwyddyn y dechreuodd fy nhad-cu, S.D Morgan, Penparc ar 27 mlynedd o wasanaeth fel Cadeirydd y Sioe.

Ym 1985, fe ddaeth newid mawr arall gan i’r ysgrifennydd a oedd yno am y 25 mlynedd gyntaf ymddeol ac fe gadwyd trefn ar weinyddu’r Sioe am y 18 mlynedd nesaf gan un sy’n adnabyddus inni gyd, Timothy Evans. Dynodwyd carreg milltir arall ym 1992 gyda 658 o geffylau’n ymgeisio (dyma oedd y record tan iddynt gyrraedd 717 yn 2005).

Yn y blynyddoedd hyd at 1999 fe gynhaliwyd y Sioe yn Llambed ei hun (gyda’r un y flwyddyn cynt yn cael ei ohirio oherwydd eira!), ger Ysgol Bro Pedr ond fe benderfynwyd symud y Sioe i gaeau Llanllyr, Talsarn. Dwi’n siwr na wnaed y penderfyniad hwn ar chwarae bach ond gydag esblygiad y Sioe, mae’n debyg nad oedd gan y pwyllgor rhyw lawer o ddewis.

Er gwaethaf y symud a oedd, o bosib, yn ergyd i Lambed yn y cyfnod fe barhaodd y Sioe i fynd o nerth i nerth gyda chymeriad lleol arall, Mr John Green, yn cael ei benodi’n gadeirydd yn 2004 gyda Sioned Green yn dod yn ysgrifenyddes yn 2005.

Mae ymroddiad cymeriadau ardal Clonc wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant y Sioe ac mae’n anodd esbonio’r gydnabyddiaeth a’r parch rhyngwladol sydd gan Sioe Feirch Llambed. Mae’n destun siarad ac yn gynhaliaeth i nifer o ar draws y byd trwy’r gaeaf.

Gyda chymdeithas wedi gweddnewid dros y degawdau diwethaf, felly hefyd y mae Sioe Feirch Llambed. Mae’n debyg, flynyddoedd yn ôl, byddai pawb yn y dref yn gwybod pryd oedd y Sioe’n cael ei chynnal. Dwi’n siwr fod hyn yn wir ymysg nifer o drigolion Llambed hyd heddiw ond fe fyddai llawer yn dadlau fod ei statws yn eu mysg efallai wedi cwympo. Ond, nid yw hyn yn wir i drigolion cymuned y Cobiau Cymreig – mae’r sioe hyd heddiw yn binacl.