Caseg o Lanbed yn ennill y Grand National

Nickel Coin a fagwyd yn Nanthenfoel a enillodd yn 1951

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
231AE1F3-4A1C-4D8D-AB34

Llun gan Brian Perry ar facebook.

70 blynedd yn union yn ôl, enillodd caseg a anwyd ac a fagwyd gan y brodyr Williams ar fferm Nanthenfoel ger Pont Creuddyn, Llanbed y Grand National. Dywedir i lawer o bobl leol gael fflyter y diwrnod hwnnw, er mawr ofid i’r bwcis lleol. Yr ods oedd 40/1.

Gwelodd torf o 250,000 o bobl y ras yn cael ei hennill gan Nickel Coin ar y 7fed o Ebrill 1951.  Marchogwyd y gaseg naw oed gan y joci John Bullock a’i hyfforddi gan Jack O’Donoghue.  Gorffennodd Royal Tan, a enillodd ym 1954, yn ail, a Derrinstown yn drydydd.

Roedd y Grand National yn llawer mwy peryglus yn 1951.  Cwympodd deuddeg ceffyl (traean o’r cae) wrth y ffens gyntaf. O’r 36 rhedwr, dim ond tri a gwblhaodd y cwrs. Dychwelodd pob un o’r ceffylau yn ddiogel i’r stablau.

Yn hanes hir y Grand National dim ond 13 ceseg sydd wedi ennill y ras, Nickel Coin yw’r un fwyaf diweddar.

Mae Aled Evans wedi cofnodi llwyddiant y gaseg leol yn ei lyfr “History of the Parish of Silian in Ceredigion”, a chofia am ei dad-cu yn dweud yr hanes ei fod wedi gweld y gaseg yn rhedeg yn aflwyddiannus mewn rasys ac na fyddai byth yn rhoi arian arni.

Er i’r brodyr Williams fynychu’r ras ar gae ras Aintree ger Lerpwl a chefnogi’r gaseg lwyddiannus yn ariannol, roedd yn anodd gan rai bobl leol fel tad-cu Aled gredu bod Nickel Coin wedi ennill ras mor fawreddog.