Dim casgliadau sbwriel yn ardaloedd Llanbed, Silian, Cellan, Llanfair Clydogau a Llangybi heddiw

Cyngor Sir Ceredigion yn ymddiheulrio oherwydd achosion positif o covid ymhlith staff.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ni fydd sbwriel yn cael ei gasglu yn ardaloedd Llanbed, Silian, Cellan, Llanfair Clydogau a Llangybi heddiw yn dilyn achosion positif o covid ymhlith staff.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymddiheurio am hyn ac yn blaenoriaethu staff sydd yn gallu gweithio i ganolbwyntio ar raeanu ffyrdd.

Cyhoeddwyd na fydd sbwriel yn cael ei gasglu yn ardaloedd Llanbed ac Aberteifi ar wefannau cymdeithasol Cyngor Ceredigion bore ddoe ond ni roddwyd unrhyw wybodaeth bellach ynglyn a threfniadau casglu gwahanol.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor am drefniadau casglu newydd:

  • Bagiau clir ailgylchu a gwastraff bwyd – Llwybr 106 – Llambed, Cribyn, Silian a Llwybr 176 – Llambed, Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanddewi Brefi – Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf, 17 Rhagfyr 2021.
  • Gwydr a bagiau du – Llwybr 106 – Llambed, Cribyn, Silian a Llwybr 176 – Llambed, Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanddewi Brefi – Ymgeisir i’w casglu ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021.

Mewn datganiad ar y we, dywed y cyngor:

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn.

Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Felly os ydych yn byw yn ardaloedd Llanbed, Silian, Cellan, Llanfair Clydogau a Llangybi, peidiwch â rhoi eich sbwriel allan ddydd Gwener 10fed o Ragfyr a rhannwch y neges â chymdogion sydd heb fynediad i’r we os gwelwch yn dda.