Cefnogaeth i fentrau cymunedol â syniadau mentrus

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GLlI) eisiau clywed gan unrhyw un sydd angen cefnogaeth i gwmpasu’r posibiliadau ar gyfer cyfleuster neu adeilad cymunedol er mwyn ei ddatblygu fel menter gymunedol.

gan Siwan Richards

Gall Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, helpu gydag agweddau megis asesu opsiynau posibl ar gyfer y cynnig a gwerthuso ei hyfywedd yn y dyfodol; gweithgaredd rhwydweithio, ymgynghori ac ymgysylltu i gefnogi tystiolaeth o angen a galw lleol. Mae Hen Eglwys Silian yn enghraifft o ganolfan gymunedol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno manylion y cynigion yw 12yp ddydd Mawrth 01 Mehefin 2021. Yn dilyn y dyddiad cau, bydd y rhain yn cael eu hadolygu gyda nifer fach yn mynd rhagddynt yn llwyddiannus fel rhan o becyn gweithgaredd.

Mae’r GGLl yn awyddus i gefnogi syniadau mentrus lleol yn enwedig y rhai sy’n gwella’r ardal, y gymdogaeth a/neu’r gymuned er budd ei thrigolion yng Ngheredigion. Mae perchnogaeth gymunedol yn galluogi pobl leol i reoli’r lleoedd a’r adeiladau pwysig sydd o bwys iddynt yn lleol, i fodloni blaenoriaethau ac anghenion yr ardal leol.

Cynorthwyir LEADER, sy’n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ymweld â wefan Cynnal y Cardi.

Byddem yn annog trafodaethau cychwynnol ynghylch cymhwysedd i ddigwydd gyda Thîm Cynnal y Cardi. I drafod eich cynnig ac i gael gwybodaeth am gymhwysedd cefnogaeth, e-bostiwch tîm Cynnal y Cardi ar cynnalycardi@ceredigion.gov.uk. Mae croeso i bob cyflwyniad yn Gymraeg neu Saesneg.