#CelfLlanfair – Beverly Georgina Moss yr arlunydd tecstiliau

Yr ail mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am unrhyw un o’r artistiaid neu am eu gwaith gallwch gysylltu â fi, Aerwen Griffiths ar e-bost danville.aerwen13@btinternet.com neu ffonio ar 01570 493407.

Dyma’r ail yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

Beverley Georgina Moss

Arlunydd tecstilau ac hyfforddwraig sy’n arbenigo yng ngwaith ffelt cerfluniol wedi ei bwytho yn 2D a 3D yw Beverley. Mae yn hoff o bwytho gyda llaw ar hen liain, gyda’r rhan fwyaf o’i gwaith ar thema natur neu llysieuol.

Mae hefyd yn angerddol ynglŷn a thyfu blodau hardd diddorol ac yn eu defnyddio, os yn addas i liwio ei gwlân neu ffibr.

Bydd ei stiwdio newydd yn agor gobeithio tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, lle bydd yn rhedeg gweithdai bach, oriel a bwtîc blodau tymhorol.

Mae Beverley wedi symud nôl i Gymru ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Swydd Derby yn rhedeg gweithdai celf i lochesau menywod, cymunedau ac ysgolion.

Mae’n falch iawn i ddod nôl i’r ardal lle roedd ei phlant wedi cael y rhan fwyaf o’u haddysg – Elliott yn Ysgol y Dderi, a Becky yn Ysgol Henry Richard.