#CelfLlanfair – David Hardy arlunydd celf gain

Yr wythfed mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.

Dyma fanylion yr wythfed yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

David Hardy

Symudodd David a’i wraig Lisa i fyw i Heol Llanfair bron dair blynedd yn ôl bellach. Arlunydd celf gain yw David wedi astudio celf gain a phrintio yng Ngholeg Celf Winchester. Ar ôl graddio symudodd i Lundain i weithio ac arddangos ei waith yn ryngwladol.

Ers symud i Gymru mae’n cael ei ysbrydoliaeth o’r amgylchedd ac yn aml yn cymryd syniadau o’r tirlun, ffurfiau naturiol a ffotograffiaeth i ddechrau ei waith. Gan ei fod yn hoff o ddefnyddio palet ostyngol mae yn gallu creu gwaith sy’n canolbwyntio ar ddyfnder, ton a gwead heb fod y lliw yn tynnu eich sylw.

Mae ganddo arddangosfa o’i waith ar hyn o bryd yn North Coast Asylum yn New Quay, Cernyw. Am ragor o wybodaeth a gweld ei waith ewch i’w wefan.