#CelfLlanfair – John Petts arlunydd y mynyddoedd a’r arfordir

Y pedwerydd mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.

Dyma fanylion y pedwerydd yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

John Petts

Ar ôl treulio pedair blynedd yn Ysgol Gelf a Chrefft, Llundain, aeth i weithio i fyd hysbysebu cyn symud i Montreal, Canada ac yna i Toronto i ddarlunio mewn llyfrau.

Symudodd yn ôl i Lundain yn 1972 a gweithio fel arlunydd ‘Storyboard’ i gwmnïau hysbysebu gan weithio gyda Tony Scott a’i frawd Ridley yn masnachu ceir Vauxhall. Roedd yn gweithio yr adeg honno o stiwdio fach 20 Old Compton Street, yn Soho.

Ers symud, flynyddoedd maith yn ôl, i fyw ar fynydd Llanfair, mae yn arlunio mewn olew, dyfrlliw a phasteli. Mae’n mwynhau llanw ei lyfrau braslunio gyda lluniau o Geredigion, y mynyddoedd a’r arfordir gyda gwerthfawrogiad enfawr o effaith y golau anhygoel o’r haul a’r cysgodion ar y tirlun yn y rhan yma o Gymru.