#CelfLlanfair – Sue Powell yn defnyddio hen hen dechneg o ffeltio gwlyb

Y chweched mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan facebook.

Dyma fanylion y chweched yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

Sue Powell

Symudodd Sue i Gymru o ardal y Gororau gyda’i gŵr yn 2011 ar ôl ymddeol o ddysgu, i redeg fferm fychan a chanolbwyntio ar ei gwaith celf.

Mae’n defnyddio hen, hen dechneg o ffeltio gwlyb i greu gwaith sy’n adlewyrchu prydferthwch arfordir Cymru, ei adar, bywyd gwyllt a’r defaid.

Mae’n byw a gweithio ym mhentref unigryw Llanfair Clydogau a’i lu o artistiaid, a’i agosrwydd at Fae Ceredigion yn rhoi iddi ysbrydoliaeth hollol gyflawn.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi llyfr yn disgrifio ei bywyd ers symud yma, ‘Holding on a Hillside’, ac yn y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cael gwahoddiad i lunio cyfres o lyfrau plant gyda’r prif gymeriad, Pipkin, nawr yn cael ei gyhoeddi ar Amazon.

Am ragor o wybodaeth ewch ar ei gwefan.