#CelfLlanfair – Ali Scott yn creu lluniau gyda gwlân

Y cyntaf mewn cyfres o bytiau am artistiaid Llanfair Clydogau.

gan Dan ac Aerwen

Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.

Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.

Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am unrhyw un o’r artistiaid neu am eu gwaith gallwch gysylltu â fi, Aerwen Griffiths ar e-bost danville.aerwen13@btinternet.com neu ffonio ar 01570 493407.

Dyma fanylion y cyntaf yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

Ali Scott

Arlunydd lluniau ffelt yw Ali a mae yn angerddol yn ei diddordeb o drawsffurfio gwlân a defnydd wedi ei liwio i beintiadau ffelt dirgrynol. Mae creu lluniau gyda gwlân yn rhoi llawenydd anhygoel iddi a mae yn para i synnu fod bwndel o wlân a ffibr garw yn gallu cael eu drawsffurfio i rywbeth mor ryfeddol a hudol. Ffeltio gwlyb yw’r ffordd mae Ali yn gweithio ac yn mwynhau y sialens.

Symudodd i Geredigion dros 40 o flynyddoedd yn ôl ac yn teimlo mai yma mae ei gwreiddiau bellach. Tirlun yr ardal a bae Ceredigion sydd yn ysbrydoli ei gwaith ac yn bwydo ei brwdfrydedd i ddefnyddio’r grefft hynafol yma.

Mae yn aelod o Gymdeithas Creuwyr Ffelt Rhyngwladol, Trywydd Celf a Chrefft Ceredigion ac ‘Origin’, Caerfyrddin gyda’i gwaith mewn casgliadau dros y Deyrnas Unedig a phellach.

Mae’n hapus i dderbyn comisiynau a gallwch weld ei gwaith ar ei gwefan.