Cerdded yn ei drons i helpu’r difreintiedig

SpeedoMick un o godwyr arian elusennol enwocaf Prydain newydd adael Llanbed.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
047D5314-29E3-4A57-BD3F

SpeedoMick ar ei ffordd drwy Gwmann bore ma.

Mae un o godwyr arian elusennol enwocaf Prydain ar y ffordd unwaith eto.  Ddoe, fe gerddodd o Aberaeron gan aros yn y Nags Head yn Llanbed neithiwr.  A heddiw, mae e ar ei daith i Lanwrda.

Mae SpeedoMick ar daith 2,000 milltir yn gwisgo dim byd and trowsus nofio, bag ar ei gefn a baneri lliwgar, pum mis ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Y tro hwn yn ogystal â chodi arian bydd yn chwilio am elusennau ac achosion da i roi hyd at £250,000 iddynt ar hyd y ffordd trwy ei elusen – Sefydliad SpeedoMick.

Cychwynodd ei lwybr yn Stornoway yn Ynysoedd y Gorllewin, wedyn Caeredin a Glasgow cyn mynd ar draws Môr Iwerddon i Belffast. Yna aeth o amgylch Iwerddon, gorffen yn Nulyn cyn croesi yn ôl i Ogledd Cymru a cherdded bob cam i Gaerdydd. Ar ôl croesi’r Hafren mae wedyn yn gobeithio ymweld â threfi ledled Lloegr cyn gorffen yn Lerpwl.

“Y rheswm rydw i’n gwneud y daith yw rhoi yn ôl i’r bobl a’r cymunedau sydd wedi fy nghefnogi yn y gorffennol.”

“Mae pandemig Covid-19 wedi rhoi straen enfawr ar gyllid cymaint o elusennau teilwng ac wedi taflu goleuni ar ba mor anodd y gall bywyd fod i lawer o bobl ifanc yn y wlad hon, boed hynny oherwydd diffyg bwyd, arian neu gyfleoedd. Felly byddaf yn gwneud unrhyw beth a allaf i helpu.”

“Mae digartrefedd, iechyd meddwl a phobl ifanc ddifreintiedig yn faterion sy’n agos iawn at fy nghalon fy hun gan fy mod i wedi bod drwy’r brwydrau hynny ac rwy’n gwybod pa mor anodd yw dod allan yr ochr arall.”

“Yn fy mywyd, rwyf wedi bod mewn rhai lleoedd tywyll, unig, anobeithiol ac i mi, un o rannau mwyaf buddiol fy nghodi arian fu helpu pobl sy’n wynebu’r hyn yr wyf wedi’i wynebu.”

Mae Michael Cullen neu fel ei adnabyddir, SpeedoMick yn teithio rhwng Cwmann a Llanwrda ar hyn o bryd.  Codwch law, canwch gorn neu stopiwch i siarad ag ef.  Mae’n berson cymdeithasol iawn ac yn barod iawn i siarad a thynnu llun.

Mae dros £46,000 wedi ei gyfrannu ar ei dudalen gofundme yn barod.  Beth am ei gefnogi?

Mae’n dipyn o arwr yn cerdded yn ei drons mewn tywydd mor dwym, ond yn fwy na hynny, yn cerdded cymaint o filltiroedd dros achosion da.