1. Cerdin Price, Trefnwr Angladdau – y flwyddyn a fu

Y cyntaf mewn cyfres o gyfweliadau fideo â gweithwyr lleol yn trafod effaith cyfnod clo y pandemig.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’n flwyddyn ers dechau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid19 arnynt yn y flwyddyn.

Cerdin Price sy’n rhedeg busnes Gwilym Price ei fab a’i ferched yn Llanbed gyda’r teulu yw’r cyntaf i ymddangos mewn cyfres o fideos.  Mae gan Gwilym Price ei fab a’i ferched, Trefnwyr Angladdau Gapel Gorffwys yn Stryd y Bont, Llanbed a siop lestri a chelfi yn Stryd y Coleg.

Rhai blynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd llyfr am hanes y cwmni.

Y llynedd, bu’n rhaid i Rhodri, mab Cerdin ddychwelyd yn gynnar o’i daith seiclo oherwydd y pandemig.

Ac yn ystod y flwyddyn, bu farw ei dad Gwilym a chynhaliwyd angladd ar gyfer y teulu yn unig.