Her Tri Chopa

Cwmni CARA yn cerdded y tri chopa a chodi £7000 at elusennau

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Her Tri Chopa CARA yn codi cyfanswm o £7000 tuag at Elusennau cefn gwlad

Ar y 25ain o Fehefin eleni, aeth tîm cwmni CARA o Fydroilyn ati i ddringo tri chopa Cymru, sef Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-fan mewn 24awr. Roedd hi’n ymdrech arwrol gan y tîm, a hynny ar ddiwrnod gwlypaf yr Haf!

Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau caredig, ac hefyd i Fanc Lloyds TSB am eu nawdd. Pleser mawr oedd cael cyflwyno siec o £3500 yr un i’r ddwy Elusen sef Tir Dewi ac Ambiwlans Awyr Cymru.