Clonc fach, paned a chacen am ddim!

Clonc360 yn gwahodd pobol y fro i noson gymdeithasol yng nghaffi’r Hedyn Mwstard 

clonc360

Mae croeso i bawb sy’n byw yn ardal Clonc360 ymuno â ni am noson gymdeithasol nos fory (nos Fawrth, 28 Medi) yng nghaffi’r Hedyn Mwstard, Llanbed.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn ar y wefan fro, nid jyst achos nifer y straeon, ond achos bod lot fowr o bobol wedi bod yn cyhoeddi. O fynd i edrych, fe allwn ni weld bod 19 o’r 25 stori ar Clonc360 fis yma wedi’u creu gan bobol wahanol. Sbeshal!

Adeiladu ar hynny yw’r bwriad nos Fawrth.

Gydag elfennau o fywyd yn prysuro eto, mae mwy o gyfleoedd am straeon lleol diddorol. Bydd cyfle i drafod syniadau am pa straeon sydd angen eu dweud, a beth a phwy sy’n haeddu sylw.

Bydd hi’n gyfle hefyd i weld elfen hollol newydd i’r wefan fro, sef Calendr360. Mae’n lle i hyrwyddo a gweld yr holl ddigwyddiadau sy mlaen mewn un man.

Felly croeso i bawb sy’n byw yng nghyffinie Clonc360 – o Gorsgoch i Lanfair Clydogau, o Lanllwni i Bumsaint – ymuno am glonc fach, nos Fawrth am 7.30pm.

Cewch baned a chacen am ddim – perffaith i bob Cardi!