CLONC mis Hydref

Straeon dirifedi yn eich Papur Bro!                              

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae Rhifyn Hydref o Bapur Bro Clonc ar werth – bargen am 60c!

Darllenwch am lwyddiant Rhian Bambrey o Lanbed yn ennill cystadleuaeth ‘Yr Ardd Lysiau Orau yng Nghymru yn 2021’ ar raglen ‘Garddio a Mwy’ S4C. Rhythwyn Evans yw’r cymeriad hynod yn y gyfres ‘Cymeriadau Bro’. Pa gyfrinachau wna Hanna Medi Evans, Cellan ddatgelu yn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’?

Cewch hanes Oedfa Sefydlu’r Parchedig Chris Bolton yn Weinidog ar Eglwysi Annibynnol Gofalaeth Bröydd Teifi a hanes sefydlu Cangen YesCymru Llanbed. Ceir diweddariad am Glwb Rotary Llanbed a’r elusennau maent yn eu cefnogi eleni sy’n cynnwys Siop Tenovus a’r Siop Gwarchod Hinsawdd yn Llanbed.

Mae colofn Dylan Iorwerth, ‘Gwersi yn y gwrychoedd’ yn amserol a ninnau yng nghyfnod y cynhaeaf. Mae ryseitiau ‘Bara Diolchgarwch’ a ‘Bara Soda Cnau’ Cegin Gareth hwythau â blas yr Hydref. Math arall o haelioni sy’n derbyn sylw Rajesh David yng Ngholofn y Dysgwyr. Cyfeiria at y croeso cynnes Cymreig a cherddoriaeth ei grŵp Gitân yn dod â hanes, diwylliant a cherddoriaeth Cymru a’r India at ei gilydd.

Ein diwylliant eisteddfodol sy’n #AtgofGen Dylan Lewis gan ddiolch i Goronwy Evans a Trefina Jones am rannu eu hatgofion am Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r Fro 1984.

Tynnwyd enillwyr Hydref Clwb Clonc yn noson ‘Clonc fach, paned a chacen’ yn yr Hedyn Mwstard, Llanbed. Os nad ydych yn aelod o Glwb Clonc, beth am ymaelodi a chefnogi Clonc? Cysylltwch gydag aelod o’r Bwrdd Busnes am y manylion.

Cofiwch hefyd gefnogi’r holl fusnesau lleol sy’n cefnogi Clonc trwy eu hysbysebion yn rhifyn Hydref. Diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth gan annog darllenwyr Clonc i’w cefnogi hwythau.