Rwy’n Llywydd Clwb Rotary Llanbed am gyfnod 2021-22. Mared Rand Jones yw’r Is-lywydd a’r Ysgrifennydd a David Cooper yw’r Trysorydd.
Prif nod Rotary yw cefnogi cymunedau, gwella bywydau pobl a chodi arian at achosion da yn lleol ac yn rhyngwladol.
Cefnogir gwaith ymhlith pobl ifanc trwy ‘RYLA’ (Rotary Youth Leadership Awards) a chystadlaethau ieuenctid Rotary megis Siarad Cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cymerir rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel Carnifal Llanbed.
Rhoddir cefnogaeth ariannol i achosion da megis y Banc Bwyd a’r Groes Goch i gefnogi Ffoaduriaid o Syria yn Llanbed.
Cyflwynwyd siec am £1,500 yn ddiweddar i gefnogi gwaith Ymchwil Canser Cymru ym maes canser y brostad a’r coluddyn. Dyma lun Helen Louise Davies uchod yn derbyn y siec gan y cyn-Lywydd Kistiah Ramaya.
Y prif elusennau a gefnogir yn 2021-22 yw:
– elusen canser Tenovus a’r siop yn Llanbed;
– y Siop Gwarchod Hinsawdd yn Llanbed i gynorthwyo ffermwyr i blannu coed yn Cenia i warchod yr hinsawdd;
– Ymddiriedolaeth Rotary i geisio gwaredu’r afiechyd polio ar draws y byd.
Mae cefnogi Tenovus yn parhau gwaith y clwb o gefnogi elusennau canser. Mae cefnogi’r Siop Gwarchod Hinsawdd yn barhad o ymdrechion codi arian y clwb yn Cenia. Cyflwynwyd siec am £5,672.10 eleni i Rotary Rhyngwladol yn rhan o’r arian a gasglwyd gan Glybiau Rotary Rhanbarth De Cymru. Trosglwyddwyd y rhodd i Glwb Rotary Malindi, Cenia fydd yn ei ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth o ddŵr glân i drigolion Bore yn Cenia.
Os hoffech wybod mwy am Rotary mae croeso i chi gysylltu gyda fi neu’r Is-lywydd. Byddwn yn falch o egluro sut mae ein gwaith cymunedol ac elusennol yn helpu’r rhai sy’n llai ffodus a sut y gallwch ein cynorthwyo ac ymuno â ni.
Cynhelir ein cyfarfodydd misol ar yr ail nos Lun o’r mis yn rhithiol ar hyn o bryd. ‘Rydym fel arfer yn cyfarfod yn un o westai Llanbed am bryd bwyd, i drafod materion busnes ac i gymdeithasu.
Cewch mwy o fanylion am Glwb Rotary Llanbed yma.