Clwb Llanllwni yn ennill Siarad Cyhoeddus C.Ff.I. Sir Gâr

Llwyddiant i siaradwyr dawnus Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni. 

Siriol Howells
gan Siriol Howells

Ar ddydd Sadwrn y 27ain o Fawrth, fe gystadlodd aelodau Clwb Llanllwni yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg rhithiol y sir.

Fe wnaeth dau dîm o’r clwb gystadlu ac fe ddaeth yna lwyddiant i’r clwb gyda’r adran ganol, sef Betsan Jones, Sioned Howells a Cathrin Jones yn fuddugol.

Da iawn i Sioned am dderbyn cwpan y siaradwr gorau a phob lwc iddi hi a Bestan a fydd yn cynrychioli’r sir ar lefel Cymru gyda Cathrin wrth gefn.

Diolch i Mared Evans am roi ei hamser i’w hyfforddi.

Fe wnaeth Betsan Jones, Sioned Bowen, Jac Jones ac Owain Davies gystadlu yn yr adran hŷn ac fe fydd Owain Davies hefyd yn mynd ymlaen i gystadlu ar lefel Cymru yn rhan o dîm Sir Gâr.

Diolch i Eileen Davies am ddysgu’r tîm hŷn. Llongyfarchiadau i chi gyd!