Coron a chadair C.Ff.I Sir Gâr i Sioned o Glwb Llanllwni

Canlyniadau C.Ff.I Llanllwni yn Eisteddfod Ar-lein y Sir 2021.

gan Cathrin Jones
SeremoniC.FF.I Sir Gar

Sioned Howells, Y Goron a’r Gadair

Yn draddodiadol, ym mis Hydref y mae bwrlwm Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.  Ond o dan yr amgylchiadau eleni, cynhaliwyd yn mis Mawrth a bu rhaid inni ddangos ein talent ar-lein, yn lle ar lwyfan! Er bod nifer yr aelodau a wnaeth gystadlu yn llai na’r arfer, roedd yr eisteddfod dal yn un hynod o lwyddiannus!

Un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod eleni oedd gweld un o’n haelodau, Sioned Howells yn ennill cystadlaethau’r cadeirio a’r coroni.  Testunau’r eisteddfod oedd ‘Mwgwd/Mygydau’ ar gyfer y rhyddiaith (y goron) a cherdd ar y thema ‘Cymuned’ (y gadair).  Enillodd Sioned gan ddefnyddio’r ffug enwau ‘Sbot’ ar gyfer y goron â ‘Bryn’ gyda’r gadair.  Rhaid cofio, nid dyma’r tro cyntaf i Sioned Howells gipio’r goron – ar ôl iddi ennill y goron yn 2017, ac ennill yr ail safle yn 2016 ac yn 2018!

Llongyfarchiadau mawr iti Sioned am ennill y dwbl – tipyn o gamp!

Dyma’r canlyniadau llawn;

1af; Hefin Jones a Siriol Howells – Stori a Meim

3ydd; Erin Davies – Llefaru 19 ac Iau

Adran Gwaith Cartref:

1af; Sioned Howells Rhyddiaeth (Y Goron)

1af; Sioned Howells Cerdd (Y Gadair)

Dyma fideo o’r seremoni Cadeirio a Choroni;

Ar ôl y cystadlu, braint mawr oedd gweld C.FF.I Llanllwni yn cipio’r 3ydd safle yn y gwaith cartref ac yn 4ydd yn y canlyniadau terfynol.

Diolch i’r aelodau a wnaeth gystadlu a llongyfarchiadau i chi i gyd!

Pob dymuniad da i’r rhai a fydd yn mynd ymlaen i Eisteddfod C.Ff.I Cymru ar ddiwedd y mis.

Hefyd, rhaid diolch yn fawr i swyddogion a staff y sir am eu gwaith caled o gynnal eisteddfod go wahanol eleni – Diolch yn Fawr!