Covid, Ceisiau a Chardiau Coch: Y Chwe Gwlad hyd yn hyn

Hanes y Chwe Gwlad hyd yn hyn

gan Rhys Jones

Er gwaethaf y pandemig sydd wedi rhoi’r byd ar stop, mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cyffroi cefnogwyr rygbi ar draws y Byd. Ar ôl dwy rownd o gemau, mae’r gystadleuaeth yn agored iawn, ond gyda thair wythnos o gemau ar y gweill, pwy fydd yn gorffen y bencampwriaeth ar y brig? A fydd yr Eidal yn llwyddo i osgoi’r llwy bren? A fydd Cymru’n curo’r hen elyn, Lloegr, i ennill y Goron Driphlyg? Neu a all Ffrainc, y ffefrynnau, ymdopi â’u hachosion Covid-19 i ennill y Gamp Lawn? Pwy a ŵyr, ond mae un peth yn sicr, gallwn ddisgwyl rhagor o adloniant heb ei ail dros yr wythnosau nesaf.

Bydd Iwerddon yn teithio i Rufain ddydd Sadwrn ac mae ganddynt gyfle i ail-edrych ar eu patrymau a’u systemau yn erbyn yr Eidal, gyda’r ddau dîm yn awyddus i ennill eu gêm gyntaf eleni ar ôl colli yn y ddau rownd cyntaf. Unwaith eto eleni, nid yw’r Eidalwyr yn edrych fel ennill llawer o gemau, ond rydym wedi gweld fflachiau o dalent gan chwaraewyr ifanc megis Stephen Varney a’r maswr Paolo Garbisi. Maen nhw’n dîm sy’n edrych yn beryglus mewn mannau, ond mae’n rhaid iddynt gael gwared ar y cyfnodau o anhrefn yn ystod gemau lle maen nhw’n colli eu disgyblaeth a’u trefn amddiffynnol, ac mae hynny’n rhywbeth bydd y Gwyddelod yn edrych i fanteisio arno. Mae’n rhaid dweud bod Iwerddon wedi cael tipyn o anlwc yn y bencampwriaeth hyd yn hyn, gyda’r blaenasgellwr pwerus Peter O’Mahony yn cael cerdyn coch yn erbyn Cymru ac roedd colli Conor Murray â Jonny Sexton oherwydd anafiadau yn erbyn Ffrainc wedi effeithio rhywfaint arnynt. Maen nhw’n dîm trefnus ac mae gan Andy Farrell tipyn o brofiad yn ei garfan. Dylai’r cefnogwyr ddisgwyl i’r cefnwr twyllodrus Hugo Keenan beri gofid i amddiffyn yr Eidal, a dylai cryfder eu blaenwyr dalu ffordd yn y diwedd. Yn fy marn i, bydd Iwerddon yn ennill yn hawdd gyda phwynt bonws.

Mae hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi cael llawer o feirniadaeth yn ystod ei gyfnod yn rheoli’r tîm, ond mae pethau’n dechrau edrych yn addawol iddo. Ar ôl ennill 3 gêm yn unig yn ystod 2020, mae Cymru wedi ennill eu gemau cyntaf eleni, gêm hynod o agos yn erbyn Iwerddon ar ôl cael trafferth i greu cyfleoedd yn erbyn 14 chwaraewr am fwyafrif y gêm, a pherfformiad gwell yn erbyn yr Albanwyr, gyda’r gwibiwr Louis Rees-Zammit yn serennu. Colli oedd hanes Lloegr yn erbyn yr Alban yn eu gêm gyntaf, ond wnaethant wella’n sylweddol ar gyfer yr ail gêm i ennill yn gyffyrddus yn erbyn yr Eidal yn Twickenham. Mae rhai o sêr Lloegr megis Owen Farrell a Billy Vunipola wedi bod yn dawel hyd yn hyn, ac mae ganddynt un o baciau gorau’r byd fel arfer. Roedd George Ford wedi dychwelyd i safle’r maswr yn erbyn yr Eidalwyr gan ddod ag ychydig o’u patrwm arferol yn ôl, ond a fydd blaenwyr Cymru yn gallu ymdopi â grym a chryfder Lloegr? Pwy fydd yn dechrau yn yr haneri i Gymru? Mae ambell chwaraewr allweddol fel Josh Adams a Josh Navidi yn dychwelyd ar gyfer yr ornest, ond mae gan nifer o’r arbenigwyr bryderon ynglŷn ag ymosod Cymru, ac mae nifer o’r cefnogwyr yn galw am roi cyfle i faswr mwy creadigol fel Callum Sheedy neu Jarrod Evans yn hytrach nag aros gyda Dan Biggar. Bydd hi’n gêm agos iawn a gall Cymru ennill y Goron Driphlyg yn erbyn yr hen elyn, ond gall hon fynd naill ffordd neu’r llall a bydd Lloegr yn awyddus i’n curo ni yng Nghaerdydd.

Ar ôl dechreuad gwych i’r bencampwriaeth, roedd yr Albanwyr yn anlwcus i golli mewn gêm agos yn erbyn Cymru wythnos diwethaf. Mae’r cefnwr Stuart Hogg wedi bod yn anhygoel hyd yn hyn, ac mae chwaraewyr fel Duhan van der Merwe a Hamish Watson wedi creu argraff yn ystod y rowndiau cyntaf. Ar ôl cael cerdyn coch yn erbyn Cymru, ni fydd Zander Fagerson ar gael am weddill y bencampwriaeth, felly bydd angen i WP Nel gymryd ei le yn y rheng flaen. Mae Ffrainc wedi dechrau’r bencampwriaeth ar dân, gan ennill yn hawdd yn erbyn yr Eidal a churo’r Gwyddelod wythnos ddiwethaf. Ond, mae peryglon y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y garfan dros y dyddiau diwethaf. Mae’r mewnwr Antoine Dupont, dyn y mae llawer yn enwi fel chwaraewr gorau’r byd, yn gorfod hunan-ynysu ar ôl cael prawf positif ar gyfer Covid-19 ynghyd â’r hyfforddwr Fabien Galthié, y prop pen-tynn Mohamed Haouas, Arthur Vincent, Gabin Villiere, y bachwr Julien Marchand, Charles Ollivon, Romain Taofifenua, Cyril Baille, Brice Dulin, Peato Mauvaka a dau aelod arall o staff. O ganlyniad i’r achosion yma, mae Ffrainc wedi gorfod enwi carfan newydd ar gyfer y gêm ym Mharis. Mae’n anodd dweud sut fydd yr hunllef hon yn effeithio ar berfformiad y Ffrancwyr gan fod chwaraewyr talentog fel Grégory Alldritt, Teddy Thomas a Gaël Fickou yn chwarae’n arbennig ar y funud. Yn fy marn i, er gwaethaf yr hunllef Covid-19 sydd gan y Ffrancwyr, rwy’n credu byddant yn ennill o drwch blewyn yn erbyn yr Alban ddydd Sul.