Covid yn dal i effeithio ar yr ardal

Nags Head Llanbed ar gau am ddeng niwrnod oherwydd Covid.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae un o dafarnau mwyaf poblogaidd Llanbed wedi cau am ddeng niwrnod oherwydd achos arall o Covid yno.

Dywed hysbysiad ar ddrws y Nags Head yn Stryd y Bont:

Rydym yn cymryd bygythiad y pandemig o ddifrif gan weithio ochr yn ochr â’r awdurdodau a’r cwsmeriaid.

Rydym yn gwybod y byddwch yn deall y sefyllfa, ond mae lles ein cymuned, cwsmeriaid, staff a’u teuluoedd yn cael y flaenoriaeth.

Mae Covid dal yn ein plith, felly ewch am eich brechiadau, dilynwch y canllawiau a chadwch yn ddiogel.

Mae hyn yn dilyn mesurau newydd yn Fferyllfa Adrian Thomas.  Cyhoeddwyd hyn ar facebook ar ddechrau’r wythnos:

Oherwydd cynnydd mewn achosion Covid sydd hefyd wedi achosi problemau staffio, bydd y rhwystrau ar flaen y siop yn ôl yn eu lle am weddill yr wythnos. Ffoniwch am bresgripsiynau yn unig neu i gasglu presgripsiynau am y tro. Diolch ymlaen llaw a chadwch yn ddiogel.

Cyhoeddwyd ar wefan Clonc360 hefyd yr wythnos ddiwethaf na ellir cerdded mewn i feddygfeydd Taliesin yn Llanbed na Brynmeddyg, Llanybydder heb apwyntiad, ac y dylid ffonio am gymorth.