? Criw Cwmann wedi cyflawni Her y Tri Chopa

Syniad gwallgof un amaethwr lleol er mwyn nodi ei ben-blwydd yn hanner cant.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ddoe cyflawnodd criw o Gwmann a’r cyffiniau her y tri chopa a bu’n fraint i mi gael bod yn rhan o hyn wrth fod gyda nhw ar ddau fynydd.

Oriau mân fore Sadwrn cychwynnodd y pymtheg o Lanberis ar daith i ben Yr Wyddfa, gan gerdded Cadair Idris ger Dolgellau yn y prynhawn a gorffen wrth goncro Pen-y-fan cyn nos.

Tipyn o her, alla i dystio i hynny.  Er i mi ond dringo’r Wyddfa a Chadair Idris, mae tipyn o sgrwb arna i bore ma.  Ond roedd y cwmni’n wych a’r golygfeydd yn odidog.

Wyn Jones, Hendai oedd tu ôl i’r syniad gwallgof gan iddo benderfynu y dylai wneud rhywbeth gwahanol i nodi ei ben-blwydd eleni yn hanner cant, ac felly criw o’i deulu a’i ffrindiau a fu gydag e ar hyd y daith.

Erbyn naw o’r gloch neithiwr, dychwelodd bob un o’r criw gorffenedig o gopa Pen-y-fan wedi diwrnod heriol iawn, ond rhyfeddol o wych hefyd gan deimlo boddhad aruthrol o gyflawni rhywbeth mor fawr.