Croeso nôl!

Cân i groesawu disgyblion a staff Ysgolion Ceredigion yn ôl i’r Ysgol

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Dathlwn a chroesawn holl ddisgyblion a staff Ysgolion Ceredigion yn ôl i’w hysgolion heddiw gyda chân.

Mae wedi bod yn gyfnod hir, yr adeiladau gwag yn ddi-sŵn a di-fwrlwm ond heddiw mae na lond y lle o obaith, hyder a chyffro.

Diolch i Delor James am y geiriau hyfryd ac i Sam Ebenezer am y gerddoriaeth a’r perfformiad.

Croeso nôl i’r holl ddisgyblion, mwynhewch yr addysgu a’r cymdeithasu a hyderwn am gyfnod gwell.