Cronfa Uwchraddio Band Eang Ceredigion


Cynllun ffibr band eang sy’n dod i Lanybydder a’r ardaloedd cyfagos yn y misoedd nesaf.

Hazel A Thomas
gan Hazel A Thomas
153238341_105557854915613

Ffibr Llanybydder Fibre

Oes gennych gysylltiad rhyngrwyd? Ydy’r cysylltiad yn rhy araf neu a ydy’ch cartref yn rhy anghysbell efallai? 

Wel os ydych chi am ddysgu mwy am y cynllun ffibr band eang sy’n dod i Lanybydder a’r ardaloedd cyfagos yn ystod y misoedd nesaf, ymunwch â’r grŵp bach o bobl leol, sydd â chysylltiadau band eang gwael, a ddaeth at ei gilydd y llynedd i hyrwyddo’r Gronfa Uwchraddio Byd Eang ymhlith eu ffrindiau a’u cymdogion yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, sydd erbyn hyn, wedi cael eu dewis fel ardaloedd peilot.

Dyluniwyd y cynllun hwn, sy’n cael ei redeg gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, i ddod â phobl sydd â diddordeb mewn derbyn y ffibr band eang cyflym at ei gilydd ac yna dod â chyflenwyr sydd â diddordeb mewn cyflawni’r uwchraddiad strategol hwn i mewn.

Bellach mae gennym gyflenwr a fydd yn gosod cysylltiadau rhyngrwyd ffibr yn uniongyrchol i gartrefi a busnesau ardal Llanybydder.

 Rydym wedi creu tudalen Gweplyfr / Facebook i esbonio’r newidiadau cyffrous
, felly clicwch ar y ddolen hon i weld beth sydd wedi cael ei rannu yn barod.

Byddwn yn cynnig mewnwelediad 
i’r newidiadau mewn technoleg, y manteision a ddaw yn sgil hyn i chi, pwy
 sy’n cyflwyno’r gwaith a phryd y bydd pethau’n digwydd. Byddwn yn esbonio
 sut mae’r cyllid yn gweithio a sut y gallwch chi gofrestru ar y Cynllun.

Dilynwch y dudalen hon a’i rhannu ag eraill wrth i chi ddysgu pethau am 
ffibr band eang. Byddwn yn ceisio osgoi’r pethau techie a geeky. Mae hyn yn
gyfle cyffrous i ardal Llanybydder! Fel arfer mae’r dechnoleg hon yn cael 
ei chyflwyno i drefi a dinasoedd yn gyntaf ac yna, flynyddoedd yn 
ddiweddarach, i’r ardaloedd gwledig.  NID Y TRO YMA – MAE FFIBR BAND EANG CYFLYM
 AR Y FFORDD!




Gwybodaeth bwysig i’w nodi:

 – 

Mae’n gynllun a ariennir gan y DU a Chymru gyda’r nod o helpu’r ardaloedd mwyaf gwledig yn y DU.
  

Mae Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi fetio pob cyflenwr
 .

Mae terfyn amser ar gyfer y cyllid – 31ain Mawrth
 – Dim sicrwydd y bydd cyllid pellach yn y dyfodol.
 

Mae cynllun Llanybydder yn cael ei gefnogi gan Ben Lake, Cyngor Ceredigion, Cyngor Caerfyrddin a’r Cynghorau Cymunedol lleol.

Bydd FTTP (Ffibr i’r cartref) yn cael ei osod yn y dyfodol agos wrth i gysylltiadau gwifren gopr gael eu dileu’n raddol erbyn 2027 ac efallai y bydd yn rhaid i breswylwyr dalu am y cysylltiadau hynny.

Yn wahanol i rai cyflenwyr yn dewis cysylltiadau mynediad hawdd yn unig, bydd hyn yn cynnwys eiddo mwy anghysbell, os oes digon o gleientiaid yn ceisio am dalebau yn yr ardal.

Mae cysylltiad am ddim a’r pecyn yw’r cynnig cyflymaf a rhataf yn y dref.

Sicrhau y dyfodol

Gallai peidio â gwneud unrhyw beth nawr arwain at gysylltedd arafach fyth mewn ychydig flynyddoedd.

Mae addoldai ac ysgolion cynradd yn cael cysylltiadau am ddim.

Yr unig gynllun cysylltiad rhad ac am ddim yn y dre.

1Gbit (1000Mbit) am £20 y mis.