Cwis degawdau’r Eisteddfod ac atgofion cyn enillwyr

Cwis ac atgofion i lenwi bwlch ar Ŵyl Banc Awst am na ellir cynnal Eisteddfod Llanbed.

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Pe byddem ni nawr mewn byd ‘normal’, fe fyddem ni yn ei chanol hi gydag Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan. Ond nid felly y mae, wrth gwrs, oherwydd y cyfyngiadau fu arnom, ac er lles pawb.

Er mwyn llenwi’r bwlch, mae Rhys Bebb Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, wedi trefnu holiadur yn cwmpasu degawdau’r Eisteddfod, ac mae’r cwestiynau wedi’u cyhoeddi ar ein cyfrif facebook a twitter. Os nad ydych chi wedi cael cyfle i weld y cwis, dyma gopi cyflawn.

Hefyd, yn ystod y tridiau diwethaf, mae 11 cyn enillydd wedi ateb cwestiynau Nia Wyn Davies. Braf darllen eu hatebion, gan rannu’u hatgofion a’u profiadau – yn ogystal â’u tips ar gyfer Eisteddfod 2022! Diolch i Aled Hall, Lowri Loader, Delyth Medi, Nest Jenkins, Ioan Wyn Evans, Elin Haf Jones, Heiddwen Tomos, Elen Morgan, Gwawr Edwards, Tudur Dylan Jones ac Elliw Dafydd. 

Cofiwch felly chwilio am ddeunydd #AtgofLlanbed ar facebook a twitter, a diolch am eich cefnogaeth bob amser i’n Eisteddfod.