Cwrdd Diolchgarwch Bethel 2021

Y Parchedig Carys Hamilton yn trafod amser.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch Bethel Parc-y-rhos nos Fercher 13eg Hydref gyda’r Parchedig Carys Hamilton, Ficer newydd y plwyf yn gwasanaethu.

Cyflwynwyd y Parchedig Hamilton gan Dylan Lewis a chymerwyd at y rhannau arweiniol gan Eira Price, Dylan Lewis, Elin Jones a Cerdin Price gydag Elma Phillips yn cyfeilio.

Cododd y Ficer ei thestun o Lyfr y Pregethwr, Pennod 3 Adnodau 1 i 8.

Dyma recordiad o’r cwrdd i’r rhai a fethodd fynychu.