Cwrdd #Nadolig Bethel Parc-y-rhos

Cwrdd dan ofal rhai aelodau a phobl ifanc, cydnabod cyn ysgrifenyddion a chefnogi Cymorth Cristnogol.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Dyma gwrdd Nadolig Bethel Parc-y-rhos fel recordiad fideo.  Yn anffodus nid ydym yn cwrdd yn y capel heddiw er mwyn cadw pawb yn ddiogel rhag Covid.

Paratowyd y fideo gan Dylan ar y thema negeseuon y Nadolig a chymerwyd rhan gan Carys, Megan ac Elin Dafydd, Dylan, Ann, Elin Jones, Mari, Lola, Llyr, Sara a Lowri.

Ar ddiwedd y cwrdd diolchir i Ann ac Elin a fu’n gyd ysgrifenyddion cydwybodol Bethel am dros ddegawd, ac anrhegir y ddwy ar ddiwedd eu cyfnod yn y swyddi.

Nid oedd yn bosib trefnu ymweliad gan Sion Corn eleni oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol.  Yn lle hynny, penderfynwyd cyfrannu £100 yn enw Plant Bethel tuag at Apêl Cymorth Cristnogol.  Gellir gwylio ffilm fer ar ddiwedd y cwrdd sy’n esbonio sut mae Cymorth Cristnogol yn gwario’r arian.

3 sylw

Eric ac Avril
Eric ac Avril

Diolch i Dylan am drefnu y cwrdd Nadolig , ac i bawb a gymerodd ran.Roedd yn bleser ei weld a gwrando.

Eric ac Avril
Eric ac Avril

Da iawn bawb..Nadolig Llawen.

Alun Jones
Alun Jones

Cyflwyniad a neges y Nadolig mewn ffordd fodern, diolch i bawb a gymerodd rhan. alun a elsie

Mae’r sylwadau wedi cau.