Tŷ Cwrdd newydd sbon yn Llanbed

Cyrddau wedi dechrau yn adeilad newydd Eglwys Efengylaidd Llanbed drws nesaf i’r Hedyn Mwstard.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y Parchedig Robert Thomas, Llandrindod yn pregethu yn oedfa gyntaf adeilad newydd Eglwys Efengylaidd Llanbed.

Cynhaliwyd gwasanaeth cyntaf erioed yn adeilad newydd Eglwys Efengylaidd Llanbed ar fore Sul, Mai 23ain.

Dyma garreg filltir rhyfeddol yr oes fodern lle gwelir cyfnod o drai yn gyffredinol ym mhatrwm addoli pobl, ond dyma gaffaeliad anferth hefyd i Lanbed a’r ardal gydag adeilad aml bwrpas modern yng nghanol y dref ar Stryd y Coleg.

Dechreuwyd ar y gwaith o godi adeilad mor bell yn ôl â 2017 drwy law yr adeiladwyr Williams & Thomas a chrefftwyr eraill lleol.

Dywed Gareth Jones ym Mhapur Bro Clonc “Roedd yn hynod bwrpasol cynnal yr oedfa gyntaf ar Fai 23ain, Sul y Pentecost, un o Ŵyliau mawr yr Eglwys Gristnogol, sy’n nodi dyfodiad yr Ysbryd Glân.”

Ychwanega Gareth Jones “Mynegwyd diolch yr eglwys i’r rhai sy’n perthyn iddi am eu holl ymdrechion i wireddu’r prosiect hwn ac yn llythrennol gael “y maen i’r wal”, heb sôn am ymdrechion unigolion ac eglwysi eraill yng Nghymru a thu hwnt.”

”Bu’n fenter fawr ym mhob ystyr, ac mae’r diolch mwyaf i’r Duw mawr sydd wedi ei wneud yn bosibl. Petai maint y sialens wedi ei datgelu o’r dechrau mae’n go debyg y byddai pawb wedi cael ofn a phenderfynu peidio â chychwyn arni! Ond bu Duw’n rasol, yn arwain o gam i gam, yn ôl ei ddoethineb a’i arweiniad ei hun.”

Lleolir yr adeilad y drws nesaf i’r Hedyn Mwstard ac fe fydd hynny’n rhoi dimensiwn ychwanegol i ddarpariaeth y ddau sefydliad gan fod adnoddau’r naill hefyd at wasanaeth y llall.

Y gobaith yw trefnu Agoriad Ffurfiol yn nes ymlaen yn y flwyddyn pan ragwelir y bydd bywyd wedi agosáu at normalrwydd unwaith eto.

Gellir darllen adroddiad llawn a lluniau yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc.