Cwympo a thorri trwyn ar St Mary’s Street!

Cyfrinachau Ffion Quan o Lanfair Clydogau ym Mhapur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Wrth ddatgelu ei chyfrinachau yng ngholofn Cadwyn Cyfrinachau Papur Bro Clonc mis Mai dywed Ffion Quon mai cwympo a thorri trwyn ar St Mary’s Street ar ddiwrnod gêm ryngwladol oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf iddi.

Wedyn wrth ateb y cwestiwn “Pa un peth fyddet ti’n newid am dy hunan?” ei hateb yw “Siwr o fod y trwyn, ar ôl torri fe ddwy waith ma fe bach yn wonky!”

Swyddog Rheolaeth Gwastraff yw Ffion yn ôl ei galwedigaeth ac mae’n dod o Lanfair Clydogau.

Gellir dod i adnabod Ffion yn eitha da drwy ddarllen y golofn boblogaidd hon.  Dywed ei bod yn tone deaf ac mai canu yw un o’r pethau y byddai’n hoffi ei gyflawni’n dda.

Dywed hefyd fod ganddi dalent cudd sef gallu gwneud mexican wave gyda’i thafod!  Ond ar y llaw arall, un o’i harferion gwael yw chwarae gyda’i gwallt.

Beth am gyfrinachau eraill?  Mae Ffion yn ateb y cwestiynau canlynol a mwy yn y rhifyn cyfredol o Clonc: Beth yw dy hoff arogl?  Sut wyt ti’n ymlacio?   Beth yw’r grwpiau wyt ti’n perthyn iddyn nhw ar WhatsApp?  Beth sy’n rhoi egni i ti?  Pa bwerau arbennig fyddet ti’n hoffi eu meddu?  Felly cofiwch brynu copi.