Y cyflenwadau’n brin mewn ail archfarchnad yn Llanbed

Prinder dŵr potel a diodydd meddal yn Sainsbury’s.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn dilyn adroddiad ar wefan Clonc360 ddoe am silffoedd gwag yn archfarchnad Co-op Llanbed, mae archfarchnad Sainsbury’n yn y dref yn go debyg heddiw gyda phrinder dŵr potel, diodydd meddal, bwydydd anifeiliaid anwes a phapur tŷ bach.

Gwelir silffoedd gwag yn Sainsbury’s oherwydd diffyg cyflenwadau.  Y sôn yw bod gyrrwyr loriau yn hunan ynysu ar ben y broblem bod gyrrwyr yn brin yn y lle cyntaf.  Adroddwyd hefyd bod llawer o yrrwyr wedi dychwelyd i’w gwledydd oherwydd Brexit.

Diolch byth bod dal gennym rai siopau llai yn yr ardal y gallwn barhau i’w cefnogi.  A’r neges yw i bawb i brynu beth sydd ei angen yn unig a pheidio prynu mewn panig.