Cyfrinachau Sion ‘Trees’

Sion Williams o Wasanaethau Coed Llanbed sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Wedi colli allan ar daith i Baku i weld yr Euros.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?

Mwnci i wneud y job o ddringo coed yn rhwyddach.

Dyma flas o ymateb Sion Williams o Lanbed i gwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc.  Mae Sion yn gweithio i fusnes y teulu sef Gwasanaethau Coed Llanbed.

Cofiwch brynu rhifyn mis Medi Papur Bro Clonc yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio ar wefan Clonc360 er mwyn darllen yr ymatebion i gyd.