Cymrawd Anrhydeddus o’r Drindod Dewi Sant yn cynnal lansiad llyfr yn y DU ar Gampws Llambed

Mae Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n dod o America, wedi cynnal lansiad swyddogol ei llyfr yn y DU ar gampws Llambed.

gan Lowri Thomas

Penderfynodd Pamela Petro ddychwelyd i Lambed i lansio ei llyfr newydd ‘The Long Field – A Memoir, Wales, and the Presence of Absence’. Mae Pam yn un o raddedigion campws Llambed, a hithau wedi dod i Gymru dros 30 mlynedd yn ôl i astudio Damcaniaeth Gair a Delwedd ar raglen MA yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant— sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant erbyn hyn. Mae Pam hefyd yn gymrawd anrhydeddus o’r Brifysgol ac mae’n dod â grŵp o fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau i Gymru bob blwyddyn, tra bydd yn cyd-gyfarwyddo Ysgol Haf Dylan Thomas (Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas |Y Drindod Dewi Sant).

Mae’r llyfr yn tyrchu’n ddwfn i gefn gwlad Cymru i ddweud sut y daeth y wlad fach hon yn rhan fawr o fywyd awdur Americanaidd. Dyma a ysgrifennodd Pam am ei chyfarfod cyntaf â thirwedd Cymru:

 The first time in Lampeter that I walked past the edge of town, where the double yellow “no parking” lines ended and sheep pastures began, I found myself nodding, as if I were in agreement with the landscape. Its lucidity cut like a scalpel through mental images of all the other places I’d lived: New Jersey, Rhode Island, Washington DC, Cape Cod, France. It sliced through their forests and highways and towns and cities and clutter, peeling them away, down to the mental bedrock beneath—a primary place of understanding where memory and concept conjoined. And that place looked like Wales. Why, I can’t tell you. It just did.

I’ve never been the same since.

Mae dod yn ôl i Lambed i lansio ei llyfr yn golygu’r byd i Pam. Ychwanega,

“Dyma’r darlleniad dwi wedi bod yn aros amdano! Mae’n golygu popeth i mi fy mod wedi dod i Lambed fel myfyriwr Americanaidd yn 1983, ac i ddod yn ôl nawr ar ôl ysgrifennu am y dyddiau hynny fel myfyriwr yn The Long Field. Er fy mod yn dysgu ar y campws yn Ysgol Haf Dylan Thomas bob mis Mai, mae’r lansiad heddiw yn garreg filltir bersonol i mi: Llambed yw’r dref sy’n gartref i mi yng Nghymru.

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol, Gogledd America a Symudedd Allanol,

“Rydym yn falch iawn o groesawu Pam yn ôl i Lambed i lansio “The Long Field”. Yn ystod y digwyddiadau croeso i fyfyrwyr rhyngwladol, byddaf yn dweud yn aml wrth fyfyrwyr y bydd ganddynt ddau gartref am byth, un yn eu cartref presennol ac un yng Nghymru.

“Rwy’n falch o ddweud y bydd Cymru gan Pam yn ei chalon bob amser a phob blwyddyn rydym wrth ein bodd ei bod yn dod yn ôl i gyfarwyddo Ysgol Haf Dylan Thomas.

“Cwrddais â Pam mewn ffair lyfrau gyda Menna Elfyn yn Boston, roedd hi’n noson oer ym mis Mawrth ac wrth i ni rannu darn o gacen gaws ac i Pam ddweud wrthyf i am ei dyddiau cynnar yn Llambed, roeddwn i’n gwybod bod cysylltiad arbennig â Chymru.”