Y Cynghorydd Eirwyn Williams yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Etholwyd cadeirydd newydd lleol arall yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol a gynhaliwyd heddiw.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Etholwyd y Cynghorydd Eirwyn Williams o Gwmann yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

Cymerodd y Cynghorydd Williams y gadwyn swyddogol yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor a gynhaliwyd heddiw. Mae e wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir ar ran Cynwyl Gaeo am y 26 mlynedd diwethaf,

Bydd ei ddyletswyddau’n cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Wrth ymgymryd â’r gadwyn swyddogol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar-lein, talodd y Cynghorydd Williams deyrnged i Gadeirydd y llynedd, y Cynghorydd Ieuan Davies, Llanybydder, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth yn ystod blwyddyn anodd yn y swydd yn ystod y pandemig.  Dywedodd ei fod yn anrhydedd i ddilyn ôl ei droed.

Mae’r Cynghorydd Williams yn gyn-athro Cymraeg, Saesneg a Hanes ac mae ganddo gysylltiad hir â Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin.  Mae’n weithgar iawn yn y gymuned yn aelod o Bwyllgor Pentref Cwmann a Chyngor Cymuned Pencarreg.  Ymhlith ei ddiddordebau mae’n barddoni.

Mae wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn sawl ysgol gynradd wledig leol ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel llywodraethwr yn Ysgol Carreg Hirfaen.  Y Cynghorydd Williams a agorodd adeilad newydd yr ysgol yn swyddogol yn 2016.

Ers ymuno â Chyngor Sir Caerfyrddin ym 1995, bu’r Cynghorydd Williams yn gwasanaethu yn y Cabinet blaenorol gyda phortffolio a oedd yn cynnwys rheoli strategaeth a’r iaith Gymraeg; fel aelod o’r Bwrdd Gweithredol Cysgodol, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o’r pwyllgor cynllunio, y pwyllgor trwyddedu a’r pwyllgor penodi.

Llongyfarchiadau mawr i’r Cynghorydd Williams a phob dymuniad da iddo yn y flwyddyn bwysig i ddod.  Braf deall bod cadeiryddiaeth sir mor fawr yn parhau mewn dwylo lleol.

Bydd y Cynghorydd Ken Lloyd, aelod ward Gogledd Tref Caerfyrddin, yn gwasanaethu fel is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn ei araith i gloi’r cyfarfod fel Cadeirydd y Cyngor y llynedd, diolchodd y Cynghorydd Ieuan Davies i bawb a oedd wedi ei gefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y swydd a mynegodd ei gydymdeimlad â phawb a oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.

Bu’n edrych yn ôl ar nifer o ddigwyddiadau yr oedd wedi gallu ymgymryd â hwy er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys seremoni plannu coed yn Hendy-gwyn ar Daf, ymweliadau â phobl leol yn dathlu eu pen-blwydd yn 100 oed gan gadw pellter cymdeithasol, a’i ymdrechion elusennol – taith gerdded noddedig a nofio noddedig yn y môr.

“Mae wedi bod yn anrhydedd wirioneddol i wasanaethu fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin,” meddai.