? Y Cynghorydd Selwyn Walters, Maer Tref Llanbedr Pont Steffan

Cyfweliad fideo gyda’r cynghorydd sy’n Faer am y trydydd tro.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Pob dymuniad da i’r Cynghorydd Selwyn Walters yn Faer Tref Llanbedr Pont Steffan yn 2021/2022. Dyma ei drydydd tro yn Faer yn dilyn y tro diwethaf yn 2009/2010 a’r tro cyntaf yn 2000/2001. Mae’n Gynghorydd ar y Cyngor Tref ers 1987.

Dywedodd wrth Clonc360 ei bod yn ‘flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen i fod yn Faer’ gan werthfawrogi gwaith y cyn Maer, y Cynghorydd Rob Phillips yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Y Faeres yw Judith Walters ei briod, y Dirprwy Faer yw’r Cynghorydd Helen Thomas a Chaplan y Maer yw’r Parchedig Bill Fillery.

Cyhoeddodd bod dwy aelod newydd yn ymuno gyda’r Cyngor Tref sef y Cynghorydd Gabrielle Davies a’r Cynghorydd Elinor Morgan.

Cewch wybod mwy am hynny a dod i adnabod Maer Tref Llanbed yn well yn ei gyfweliad gyda Clonc360. Diolch yn fawr am y croeso hyfryd yng ngardd ei gartref ac am gyfweliad difyr gyda Clonc360.