Cynhelir Gwasanaeth Dydd Gwener y Groglith Llanbed ar Zoom eleni

Trefniadau amgen i gyd addoli y Pasg hwn oherwydd y lefel bresennol o gyfyngiadau.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhelir Gwasanaeth Dydd Gwener y Groglith Llanbed ar Zoom eleni, hynny yw’r 2il Ebrill am 10.30 y bore.

Dywed Linda Burgess y trefnydd “Roeddem wedi gobeithio cynnal Gwasanaeth Gyrru i Mewn arall “Ceir o gwmpas y Groes” i ddod â Chymuned Llanbed at ei gilydd adeg y Pasg. Ond oherwydd y lefel bresennol o gyfyngiadau, nid oedd yn bosibl.”

Fel dewis arall diogel ac ymarferol cynhelir Gwasanaeth Dydd Gwener y Groglith ar Zoom.  Bydd cynrychiolwyr o Eglwysi lleol yn cymryd rhan yn y Gwasanaeth Dwyieithog awr o hyd a bydd siaradwr gwadd sef y Parchedig Stuart Bell yn ymuno unwaith eto.

Mae croeso i bawb, y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r ID 340 264 5801.  Nid oes angen cyfrinair.

Ychwanega Linda “Mae ZOOM yn offeryn mor werthfawr ac mae’n ein cysylltu â ffrindiau ledled y byd felly rydyn ni’n edrych ymlaen at wahodd sbectrwm eang o bobl i Lanbed ar gyfer ein Dathliad Pasg.”