Marchnad y Werin San Ffolant yn Llanbed y Dydd Sadwrn hwn

Cyfle i siopa unwaith eto ond cynnyrch bwyd yn unig yn y marchnad unigryw hon am y tro.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynnyrch lleol ffres Dydd San Ffolant a fydd ym Marchnad y Werin Llanbed y penwythnos hwn.

Cynhelir y farchnad ddydd Sadwrn 13eg Chwefror rhwng deg o’r gloch y bore ac un o’r gloch y prynhawn, gyda masnachwyr bwyd yn unig yn cynnwys Cothi Valley, Anuna Craft Bakery, Simply Caws, Cath’s Vegan Kitchen, Madarch Maesyffin, Cegin Elmo ac WeGrewIt.

Bu’n rhaid canslo’r farchnad nôl ym mis Rhagfyr oherwydd y cynnydd yn niferoedd o achosion Covid yn lleol.  Ond cynhaliwyd Marchnad y Werin ar y 23ain Ionawr a’r lleoliad dros dro yw maes parcio Clwb Rygbi Llanbed.  Gofynnir i bawb i barhau i wisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol.

Byddai’n well archebu ymlaen llaw a chasglu ar y diwrnod ond bydd detholiad o gynnyrch lleol ffres ar werth ar y diwrnod hefyd.

Gellir cael manylion cyswllt ymlaen llaw ar gyfer y masnachwyr unigol ar dudalen facebook Marchnad y Werin.

Mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at weld eu holl gwsmeriaid – yn gwsmeriaid newydd a rhai sy’n dychwelyd ddydd Sadwrn!