Cynllun Profi Menter Gorllewin Sir Gâr

Prosiect sy’n cynorthwyo pobl ifanc lleol i wella eu sgiliau byd gwaith.

gan Meinir Davies

Nod cynllun Profi Menter Gorllewin Sir Gâr ydi cynorthwyo pobl ifanc lleol i wella eu sgiliau byd gwaith. Ynghyd â hyrwyddo i bobl ifanc y bydd sgiliau’r iaith Gymraeg yn fantais iddynt yn ystod eu gyrfa.  

Yn ddiweddar fe wnaethom dderbyn newyddion arbennig am gefnogaeth ychwanegol i’r cynllun sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri. Gan dderbyn grant ychwanegol Cronfa Ewropeaidd Cynllun Leader Cyngor Sir Gâr. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd yr elfennau ychwanegol yma yn ein galluogi i ddatblygu cwis sgiliau rhyngweithiol a chreu 5 ffilm fer. Gyda’r bwriad o addysgu pobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael o fewn ein cymunedau ac yna eu hannog i aros neu symud yn ôl i’r ardal yn dilyn cyfnod yn y coleg neu brifysgol.

Byddwn yn cydweithio gydag 2 gwmni sydd fel arfer wedi eu lleoli yn yr Egin i ddatblygu gwefan rhyngweithiol a ffilm sef cwmni Moilin a chwmni Optimwm.

Dywedodd Osian ‘Dan arweiniad y fenter, a mewnbwn nifer o bobl ifanc, bydd Moilin yn cynhyrchu gwefan rhyngweithiol cynhwysol gan ddefnyddio dulliau modern o ddatblygu a’r dechnoleg fwyaf cyfoes.’

Yn ôl Mike o gwmni Optimwm. ‘ Mae Optimwm, sy’n arbenigo yn y cyfryngau digidol a ffilmio, yn edrych ymlaen yn fawr i gynhyrchu’r asedau fideo i gefnogi ein bwriad i addysgu pobl ifanc ei fod yn bosib sefydlu gyrfa o fewn Sir Gâr a de Cheredigion gan hefyd gyfleu safon bywyd yr ardal. Mae cyfarwyddwyr Optimwm yn esiampl o fobl cafodd ei magi yn ardal Sir Gâr ac nawr hefyd yn gweithio o fewn cwmni llwyddiannus ers 2014. ‘

O ganlyniad i grant Leader Sir Gâr penodwyd Swyddog Datblygu Meinir Davies i ddatblygu elfennau yma o’r cynllun. Yn ôl Meinir

‘Mae sgiliau pawb yn wahanol byddwn yn creu adnodd arloesol a fydd yn cynorthwyo pobl ifanc i adnabod eu cryfderau a’r sgiliau sydd angen iddynt wella ar gyfer y byd gwaith.’

Fel pob sefydliad arall i ni wedi canolbwyntio ar addasu’r cynllun a datblygu adnoddau digidol a fydd yn apelgar i bobl ifanc. Er mwyn creu adnoddau addysgol i ni wedi cymryd mantais o hyfforddiant a chyfarfodydd rhithiol. Byddem ni byth wedi meddwl y byddai hyn wedi bod yn bosib o adref nol ar ddechrau 2020.

Er ei fod yn anodd dychmygu beth fydd ein normal newydd yn dilyn Covid 19 fel cynllun fe fyddwn yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid i ddarganfod a rhannu’r sgiliau bydd angen ar gyfer y byd gwaith. Fyddwn ni hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ein sgiliau digidol er mwyn creu ac addasu cynnwys ein hadnoddau i gynnwys y cyngor diweddaraf.

Dywed Meinir Evans, cydlynydd y cynllun:

‘Mae cynnwys yr adnoddau a rhestrir uchod wedi ei anelu at bobl ifanc ond yn wir mae’r cyngor yn addas i unrhyw oedran. Felly os ydych yn ymwybodol o unrhyw un sydd angen cymorth ar gyfer sgiliau byd gwaith ma croeso i chi gysylltu. Byddwn yn fwy na pharod i rannu cynnwys yr adnoddau yma.’

Am ragor o fanylion cysylltwch a Meinir Evans Cydlynydd ar e bost meinir@mgsg.cymru neu rhif ffôn 07539 879 572.