Cyrch arfog ar unigolyn yn Llanbed bore ‘ma

Pedwar o heddlu arfog a chi heddlu yn dal gŵr ar Heol Llanfair.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun oddi ar fideo ar facebook.

Ychydig cyn 11 o’r gloch bore ‘ma, disgynnodd nifer o heddlu arfog ar Heol Llanfair, Llanbed.  Ceuwyd yr heol rhwng Capel Noddfa a Garej Brondeifi am gyfnod.

Roedd o leiaf chwe cherbyd heddlu yno a chi heddlu yn bresennol i ddal gŵr yn ei gerbyd.  Defnyddiwyd pedwar o heddlu arfog a’i ddal mewn cyffion cyn ei gludo i’r ddalfa yn dawel.

Llun gan Dafydd Lewis.

Ni arestiwyd y gŵr ond fei’i gadwyd yn y ddalfa oherwydd gofid am ddiogelwch yr unigolyn.

Er na arestiwyd y gŵr, roedd hyn yn olygfa anarferol iawn i gymuned Llanbed, gyda phawb yn poeni am y sefyllfa ar y pryd.