Arddangosfa Gelf Llanfair Clydogau yn digwydd eleni

Amrywiaeth o waith o beintiadau, printiau leino, colograffiau, gwaith cerameg, ffelt a metal.

gan Dan ac Aerwen

Mae’n bleser mawr cael cyhoeddi fod arddangosfa Grŵp Artistiaid Llanfair Clydogau yn mynd i gael ei chynnal eleni yn Neuadd y Pentref ar ddydd Iau, Awst 5ed hyd ddydd Sul, Awst 8fed, i agor am 11 o’r gloch y.b. hyd 6y.h.

Ar y nos Wener byddwn yn agor hyd 8y.h. pan fydd yr artistiaid i gyd yn bresennol. Eleni bydd wyth o artistiaid yn dangos eu gwaith sef Cynthia Westney, Dodie a Jamie Herschal, Sue Powell, Ali Scott, Claire Parsons, Alec Page ac Aerwen Griffiths.

Bydd amrywiaeth o waith o beintiadau, printiau leino, colograffiau, gwaith cerameg, gwaith ffeltio a gwaith metal.

Bydd te, coffi a chacen i’w cael ar werth fel arfer a chyfle i gymdeithasu y tu mewn ac allan. Dewch i’n gweld a dwedwch wrth eich ffrindiau. Rhowch y dyddiadau yn eich dyddiadur. Croeso cynnes i bawb.