Dwi ddim reli yn mynd yn ‘embarrassed’

Cyfrinachau Hanna Medi o Gellan ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cofiwch brynu rhifyn Hydref Papur Bro Clonc er mwyn darllen ymatebion Hanna Medi o Gellan i gwestiynau colofn ‘Cadwyn y Cyfrinachau’.  Dyma flas i chi.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar dy fywyd di?

Gorfod bennu diwedd fy nghwrs prifysgol ar-lein. ‘Festivals’ a thrip i Wlad Pŵyl wedi’u canslo. Wedi gwneud i fi werthfawrogi’r pethau bychain mewn bywyd hyd yn oed yn fwy, a’r peth pwysicaf mewn bywyd yw bod yn hapus.

Pa siopau annibynnol lleol wyt ti’n ymweld â nhw fwyaf aml a pham?

Cadi & Grace – Pethe unigryw chi ddim yn eu gweld ar-lein.  Gwilym Price – Anrhegion i bob oedran, a fi’n caru nwyddau Jellycat nhw.  Sosban Fach – Bwyd am ddim wrth mam.  Mulberry Bush – lot o bethe diddorol a llawer o ‘alternatives’ i’r bwydydd dwi methu eu cael.

Pa sioc alli di roi i ddarllenwyr Clonc amdanat ti dy hun?

On i’n cysgu efo 60 o ‘teddies’ yn fy ngwely nes on i’n 18 oed, ac odd gan bob un enw. (Ma’r rhan fwya ohonyn nhw yn yr atig nawr).

Gellir prynu Papur Bro Clonc yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio ar lein.