Cyn ddisgybl Ysgol Coedmor ar ei ffordd i’r Senedd

Mabon ap Gwynfor yn ennill sedd Dwyfor Meirionnydd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
FA65E3BA-828E-43C0-B66D

Llun @CyngorGwynedd

Enillydd newydd sedd Dwyfor Meirionnydd yn Etholiad y Senedd heddiw yw Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru.

Dywedodd Dylan Iorweth ym mlog byw Golwg360

Mae buddugoliaeth fawr Mabon ap Gwynfor i Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn cadarnhau’r patrwm, fod y pleidiau yn cryfhau yn eu cadarnleoedd.

Mae wedi llwyddo i ennill mewn sedd sy’n rhannol fel yr un yr oedd ei daid, Gwynfor Evans, wedi sefyll ynddi.

Mi gafodd bron 2,000 yn fwy o bleidleisiau na’i ragflaenydd Dafydd Elis-Thomas.

Ac, er ei fod wedi gadael y Blaid ar ol ennill yn 2016, fe ddiolchodd Mabon ap Gwynfor yn gynnes iddo a’i ganmol am ei wasanaeth i Feirionnydd.

Enillodd Mabon ap Gwynfor gyda mwyafrif o 7,096 o bleidleisiau yn hen sedd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.

Magwyd Mabon ap Gwynfor yng Nghwmann lle’r oedd ef a’i chwaer Heledd yn byw gyda’u rhieni yn Nhŷ Capel Bethel Parc-y-rhos.

Bu’n mynychu Ysgol Sul Bethel tra’r oedd ei dad Guto Prys ap Gwynfor yn weinidog yno.  Mae’n gyn ddisgybl Ysgol Gynradd Coedmor ac Ysgol Dyffryn Teifi.

Mabon ap Gwynfor yn cael ei longyfarch gan ei chwaer Heledd wedi’r cyhoeddiad prynhawn ‘ma. Llun oddi ar facebook Heledd ap Gwynfor.

Mae’n dilyn ôl droed ei dad-cu sef y Dr Gwynfor Evans a fu’n byw ym Mhencarreg.  Y Dr Gwynfor Evans oedd aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin.

Llongyfarchiadau gwresog i Mabon ap Gwynfor, a da deall bod gwerthoedd yr ardal hon wedi cyfrannu at ei lwyddiant ac yn siwr o ddylanwadu ar ei ddyletswyddau yn Senedd Cymru.

1 sylw

Alun Jones
Alun Jones

Diolch i Dylan am dynnu sylw fod un o blant Ysgol Coedmor a oedd yn byw yn Esgair Eiddig yn dringo yr ysgol yn myd gwleidyddiaeth a dilyn ei Dadcu, llongyfarchiadau Mabon.

Mae’r sylwadau wedi cau.