Delyth Evans yn ail yng nghystadleuaeth Dramodydd Ifanc Eisteddfod T 2021

Delyth yn trafod ei gwaith a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Dramodydd Ifanc.

gan alphaevans

Delyth Evans o Silian a chyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr oedd yn ail yng nghystadleuaeth y Dramodydd Ifanc yn Eisteddfod T yr Urdd eleni. Delyth oedd hefyd yn ail yn y gystadleuaeth llynedd, tipyn o gamp!

Thema’r ddrama a ysgrifennwyd gan Delyth oedd trin anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod mewn cymdeithas. Dyma neges amserol iawn sy’n cyd-fynd â Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, sef anghydraddoldeb i ferched.

Mae Delyth wedi mwynhau ysgrifennu erioed ac yn gynt eleni, bu’n rhan o gynllun Dramodwyr Ifanc a drefnwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, gyda dramodwyr amrywiol yn cyfrannnu at y cynllun gan gynnwys Daf James, Bethan Marlow a Roger Williams.

Mae Delyth wedi bod yn cydweithio gydag Eisteddfod yr Urdd, Theatr Genedlaethol Cymru a S4C er mwyn troi’r ddrama i fewn i ffilm a gallwch wylio’r ffilm yma:  (10) GWYDR | FFILM FER Y FEDAL DDRAMA | URDD 2021 | ENGLISH SUBS – YouTube

Llongyfarchiadau mawr i ti Delyth ac edrychwn ymlaen at ddarllen dy waith yn y dyfodol!