Delyth Evans o Silian yn ail fel prif ddramodydd

Yn Eisteddfod T yr Urdd heddiw, braf oedd gweld Delyth ar y llwyfan.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Delyth Evans, Tangraig ar ddod yn ail yn seremoni’r Dramodydd Ifanc yn Eisteddfod T yr Urdd heddiw.

Braf oedd ei gweld ar y llwyfan yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog gyda’i mam a’i mam-gu yn ei chefnogi yn y gynulleidfa.

Arweinydd y seremoni oedd Heledd Cynwal a’r beirniad oedd Elgan Rhys.  Roedd 38 wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon gan gyfansoddi drama neu fonolog heb fod dros bum munud o hyd ar gyfer dim mwy na dau actor, ac a fyddai’n addas i’w berfformio ar sgrin neu lwyfan.

Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd oedd yn gyntaf a Martha Grug Ifan o Langynnwr yn drydydd.

Delyth oedd yn ail yn y gystadleuaeth hon y llynedd hefyd.  Tipyn o gamp yn wir sy’n dangos beth yw ei dawn arbennig fel llenor.