Densil Morgan i draddodi darlith arlein

Theologia Cambrensis: siâp diwinyddiaeth Gristnogol yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif.

gan Matthew Cobb

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal sgwrs gan Yr Athro Densil Morgan, Llanbed mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Bydd Yr Athro Densil Morgan yn cyflwyno papur o’r enw: ‘Theologia Cambrensis’: siâp diwinyddiaeth Gristnogol yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n sgwrs ar-lein (trwy Teams) a gynhelir am 6yh ddydd Mercher 16eg Mehefin.

Mae’r Athro Densil Morgan yn weinidog ar gylch o Eglwysi Bedyddwyr yng Ngogledd Ceredigion. Cyn cael ei benodi’n Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Saint David yn 2010, treuliodd ddwy flynedd ar hugain ym Mhrifysgol Bangor, lle bu’n ddarlithydd, uwch ddarlithydd, darllenydd ac athro. Cafodd ei wneud yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011.

Gallai’r ddarlith hon fod o ddiddordeb i rai o ddarllenwyr Clonc360. Byddem yn croesawu unrhyw un sydd eisiau mynychu’r sgwrs ar-lein hon. Tra bydd y papur ei hun yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, mae’r Athro Morgan fel y gŵyr pawb yn siarad Cymraeg a byddai’n hapus i dderbyn cwestiynau yn Gymraeg.

Os bydd unrhyw un yn dymuno mynychu, cysyllter drwy e-bostio: m.cobb@uwtsd.ac.uk a gallaf eu hychwanegu at y digwyddiad.