Disgyblion Bro Pedr yn dychwelyd i’r Ysgol wedi gwyliau’r haf

Ar drothwy dychweliad y disgyblion i Ysgol Bro Pedr ar Ddydd Gwener y 3ydd o Fedi, i ddechrau blwyddyn academaidd arall, beth yw’r rheolau sydd mewn grym i atal lledaeniad y firws o fewn yr ysgol?

gan Ifan Meredith
19787057_637264496477138Dyfed Drones - Facebook Ysgol Bro Pedr
Nid-yw-unrhyw-un

Mae’r rheolau canlynol yn weithredol yn sector uwchradd ysgol Bro Pedr ond efallai bod rhai rheolau yn wahanol mewn siroedd ac ysgolion eraill.

Fe fydd yn orfodol i ddisgyblion wisgo mygydau ar drafnidiaeth ysgol heblaw eu bod yn eithriedig am resymau meddygol. Ni fydd yn rhaid i ddisgyblion wisgo mygydau yn yr ystafell ddosbarth bellach ond fe fydd penderfyniad unrhyw ddisgybl neu aelod o staff i wisgo mwgwd o fewn yr ystafell ddosbarth yn cael ei barchu.

Mi fydd grwpiau cyswllt Blynyddoedd 7, 8 a 9 yn ehangu i fod yn grwpiau blwyddyn yn lle dosbarthiadau cofrestru. Mae hyn yn galluogi’r disgyblion i gael eu setio.

Yn unol â chanllawiau diweddar y Llywodraeth, gofynnir i’r holl ddisgyblion a staff i gwblhau a nodi canlyniad prawf llif unffordd (Lateral Flow Test) bob nos Fercher a Sul hyd nes nodir yn wahanol. Mi fydd y citiau yma yn cael eu darparu gan yr ysgol ond mae modd i’w harchebu ar-lein ar wefan y Llywodraeth. Mae’r profion yn arf hanfodol i geisio canfod clystyrau o achosion o fewn yr Ysgol a’u hatal rhag lledu i’r gymuned.

Yn ogystal, mi fydd system unffordd yn parhau ar waith o fewn yr ysgol yn ogystal â diheintio cyson a phrofi tymheredd y disgyblion.

 

Wrth i’r wlad gwblhau i frechu’r holl oedolion a chynnig trydedd ddos i’r rhai mwyaf bregus, mae’n bwysig i ni barhau i;

•           olchi ein dwylo yn drylwyr ac yn amlach,

•           gwisgo mygydau mewn ardaloedd cyfyng,

•           cofio bod cwrdd tu allan yn fwy diogel na chwrdd tu fewn,

•           archebu prawf PCR a hunanynysu os yr ydych yn datblygu unrhyw symptomau sef, peswch parhaus newydd, colled neu newid yn eich gallu i arogli neu flasu a thymheredd uchel,

•           gadael awyr iach mewn i lefydd dan do.

Rhaid i ni hefyd gofio, ‘Nid yw unrhyw un yn ddiogel tan bod pawb yn ddiogel’.